Dyn wedi marw wedi i lawdriniaeth 'fynd o'i le'
- Cyhoeddwyd
Bu farw claf oedd yn dioddef o ganser wedi i'w lawdriniaeth, oedd dan ofal llawfeddyg gafodd ei ddiswyddo'n ddiweddarach, "fynd o'i le".
Cafodd Georgios Akritidis ei ddiswyddo o'i swydd yn Ysbyty Glan Clwyd yn Hydref 2014, diwrnod ar ôl iddo roi llawdriniaeth i Arthur Price Hughes o Sir Conwy.
Clywodd cwest i'w farwolaeth yn Rhuthun ddydd Iau fod Mr Hughes wedi gwaedu'n ddifrifol.
Yn dilyn y digwyddiad penderfynodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol osod cyfyngiadau ar ddyletswyddau Mr Akritidis.
Clywodd y cwest fod pryderon am allu Mr Akritidis wedi eu lleisio gan gydweithwyr, ac fe wnaethpwyd trefniadau iddo dderbyn goruchwyliaeth yn ystod triniaethau brys.
Pryderon
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Richard Morgan, llawfeddyg ymgynghorol yn Glan Clwyd, fod staff wedi codi pryderon yn ei gylch, gan gynnwys un achlysur lle'r oedd yn rhaid i lawfeddyg arall gwblhau llawdriniaeth oedd wedi ei ddechrau gan Mr Akritidis.
"Mae'r rhain yn gymhlethdodau all ddigwydd i unrhyw un, ond mae'n anodd gwybod os ydym yn eu dadansoddi fel naill ai methu â bod yn gymwys, neu oedd o'n dod o hyd i'w draed neu oedd rhywun am dalu'r pwyth", meddai.
"Mae'n anarferol i gymaint â hynny o bryderon i gael eu codi (am ymgynghorydd). Roedd yn eglur erbyn hynny bod angen i ni fynd i'r afael â'n pryderon."
Ychwanegodd fod llawdriniaeth laporoscopig yn driniaeth "wrthun" ond ysgrifennodd at gydweithiwr yn 2014 i ddweud nad oedd gan Mr Akritidis "fewnwelediad i'w alluoedd ei hun".
Anaf fasgwlar
Wrth roi tystiolaeth i'r cwest yn Llys Crwner y Rhuthun, dywedodd Dr Brian Rodgers, patholegydd fforensig oedd yn gyfrifol am yr archwiliad post mortem, fod Mr Price wedi marw o ganlyniad i fethiant sylweddol yr organau o ganlyniad i anaf fasgwlar yn dilyn y llawdriniaeth.
Dywedodd Dr Rogers wrth y llys: "Roedd Mr Moore, un o'r uwch lawfeddygol, gerllaw, ond fe gafodd ei alw i ffwrdd ar alwad frys.
"Yn ystod y llawdriniaeth aeth rhywbeth o'i le. Fe ddioddefodd Mr Hughes waedu difrifol ar yr abdomen. Cafodd Mr Moore ei alw'n ôl a darganfod fod yr abdomen wedi ei lenwi gyda deunyddiau i atal y gwaedu".
Ychwanegodd fod anaf wedi bod i wythïen sylweddol wedi i doriad gwreiddiol gan Mr Akritidis gael ei ymestyn er mwyn cael gwell mynediad.
Bu farw Mr Hughes bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar ôl y llawdriniaeth.
Ymchwiliad
Cafodd yr heddlu eu galw i ymchwilio i Mr Akritidis, ac fe ymchwiliodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol hefyd.
Cafodd Mr Akritidis ei ddiswyddo gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddiwrnod ar ôl y digwyddiad.
Fe wynebodd gyfyngiadau ar ei ddyletswyddau sydd wedi dod i ben dair blynedd yn ôl.
Bellach mae'n gweithio yng Ngholeg y Brenin yn Llundain, ond mae rhai cyfyngiadau ar ei waith yn parhau ac nid yw'n cael gweithio fel ymgynghorydd.
Mae'r cwest yn parhau.