Ateb y Galw: Yr archeolegydd Dr Katie Hemer
- Cyhoeddwyd
Yr archeolegydd Dr Katie Hemer sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Dr Iestyn Jones yr wythnos diwethaf.
Mae Katie yn ddarlithydd bioarcheoleg ym Mhrifysgol Sheffield. Cyd-gyflwynodd y gyfres S4C, Corff Cymru, a oedd yn edrych ar ddatblygiad y corff dynol, ac mae hi hefyd wedi ymddangos ar y gyfres Cynefin.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Diwrnod poeth o haf yn chwarae mewn cwt traeth ym Mae Colwyn efo fy mam, fy nain a'i chi bach du - roeddwn i'n eithaf ifanc.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Yr actor Jonathan Brandis o'r gyfres seaQuest DSV.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gorfod sbrintio yn erbyn y cyn-chwaraewraig rygbi, Non Evans, ar gyfer pennod o Corff Cymru… y cywilydd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wrth geisio ateb y cwestiwn isod am fy niwrnod olaf ar y blaned!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gadael cwpanau hanner llawn o de oer o amgylch y tŷ!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth Mawr, Tyddewi. Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n arfer mynd yno ar wyliau haf gyda fy rhieni - atgofion hyfryd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson fy mhriodas.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, gobeithiol, diamynedd
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Far from the Madding Crowd gan Thomas Hardy - dwi'n caru gallu Hardy i ddisgrifio'r dirwedd, yr awyrgylch, a chreu cymeriadau cymhleth.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Fy nain ar ochr fy nhad - bu hi farw pan o'n i'n ifanc. Pan oedd hi'n fyw gweithiodd yn ddiflino dros hawliau gweddwon gan gynnwys sefydlu Cymdeithas Genedlaethol y Gweddwon.
Byddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i ddod i'w hadnabod a chlywed mwy am ei hymgyrchu.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Unrhyw gân gan Rage Against the Machine - mae gen i lawer o atgofion hapus o wrando arnyn nhw gyda ffrindiau.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Yn fy arddegau/ugeiniau cynnar, chwaraeais polo canŵ i dîm cenedlaethol Prydain Fawr.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dal fy ngŵr a fy merch bach a pheidio â gadael fynd.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cyntaf - well gen i gael mwy o bwdin na chwrs cyntaf plîs!
Prif gwrs - Caws macaroni gyda pys
Pwdin - Pastai pecan gyda hufen iâ bara brown
O archif Ateb y Galw:
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Rhywun sydd efo'r pŵer i wneud newid positif yn y byd.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Al Lewis