Tiara diemwnt y Marcwis o Fôn ar werth yn yr Iseldiroedd

  • Cyhoeddwyd
Henry Cyril PagetFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Simon Harris
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Henry Cyril Paget yn rhan o un o deuluoedd cyfoethoca'r byd ar ddiwedd y 19eg ganrif

Mae tiara diemwnt a oedd unwaith yn eiddo i un o bendefigion mwyaf afradlon Prydain ar werth mewn ffair gelf Ewropeaidd.

Roedd Tiara Ynys Môn ar un adeg yn eiddo i Henry Cyril Paget - pumed Marcwis Ynys Môn.

Mae disgwyl i'r tiara werthu am swm chwe ffigwr yn y digwyddiad yn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn.

Mae'r tiara yn dyddio o tua 1890, a gadawyd ef i Paget ym 1898 wedi marwolaeth ei dad.

Ffynhonnell y llun, Hancocks
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Tiara Ynys Môn yn cael ei arddangos mewn ffair gelf yn Maastricht, Yr Iseldiroedd

Etifeddodd hefyd deitl y teulu ac ystadau teuluol yn Sir Stafford, Dorset, Ynys Môn a Sir Derby.

Cafodd ystâd gwerth £535,000 - sy'n cyfateb i tua £60m heddiw.

Yn ogystal, cynhyrchodd cartrefi ac ystadau'r teulu incwm blynyddol o £120,000 - gwerth tua £13m yn 2020.

Ond erbyn iddo farw yn Monte Carlo yn 1905 yn 29 oed roedd Henry yn fethdalwr.

Cafodd ei hanes ei ddileu o'r llyfrau hanes wedi iddo wario holl gyfoeth y teulu ar gynnal dramâu drud a chroeswisgo mewn gwisgoedd crand wedi eu gorchuddio mewn diemwntau.

Nawr mae'r tiara - un o'r ychydig eitemau na chafodd ei werthu i dalu ei ddyledion - yn cael ei rhoi ar werth gan y teulu union 115 mlynedd ar ôl ei farwolaeth.