Coronafeirws: Gwasanaeth symptomau newydd
- Cyhoeddwyd

Mae gwasnaeth ffôn 111 yn brysur iawn ar hyn o bryd yn ol y gwasanaeth ambiwlans
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi lansio gwasanaeth ar-lein newydd er mwyn helpu pobl i asesu symptomau coronafeirws.
Mae'r safle ar wefan Galw Iechyd Cymru, dolen allanol yn gofyn cyfres o gwestiynau er mwyn helpu pobl i ddeall eu symptomau, fel tymheredd uchel neu beswch.
Bydd y gwasanaeth gwiriwr symptomau yn cynnig cyngor pellach i gleifion os oes angen, fel galw gwasanaeth ffôn 111.
Yn ol y Gwasnaeth Ambiwlans "man cychwyn" yw'r wefan ar gyfer cyngor meddygol.
Maen nhw hefyd wedi ategu bod gwasanaeth 111 yn brysur iawn ar hyn o bryd, ac maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd fod yn amyneddgar, yn enwedig os ydyn nhw'n aros am alwad yn ôl gan staff meddygol.
Mae gwefan Galw Iechyd Cymru eisoes yn rhoi cyngor a gwybodaeth ynglŷn â nifer o gyflyrau meddygol cyffredin.

Mae'r wefan yn gofyn nifer o gwestiynau er mwyn asesu symptomau
Mae dau berson yng Nghymru yn cael eu trin ar gyfer symptomau ar gyfer y coranfeirws, ac fe gafwyd cadarnhad o'r ail achos yng Nghaerdydd dydd Iau.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn datganiad brynhawn dydd Sadwrn nad oes rhagor o achosion yng Nghymru ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020