Carcharu cyn-gapten clwb RGC am ymosod ar heddwas
- Cyhoeddwyd
![Maredydd Francis](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/155AD/production/_111196478_picmaredydd.jpg)
Roedd yr heddwas wedi galw i gartref Maredydd Francis er mwyn ei arestio cyn yr ymosodiad
Mae cyn-gapten i glwb Rygbi Gogledd Cymru wedi ei garcharu am achosi niwed corfforol difrifol i heddwas.
Roedd PC Richard Priamo wedi mynd i gartref Maredydd Francis, 26, yn Glanrafon, Wrecsam ar 3 Awst y llynedd er mwyn ei arestio.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Francis ei ddedfrydu i 21 mis o garchar.
Roedd wedi pledio'n euog mewn gwrandawaid cynharach.
Clywodd llys fod Francis wedi gafael yn y plismon rhwng ei goesau a'i daflu mewn "tacl rygbi".
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrtho: "Rydych yn ddyn grymus gyda thymer ffrwydrol nad ydych yn gallu ei reoli, ac mae ganddo chi duedd i fod yn afresymol o dreisgar.
"Fe aethoch o fod yn dawel i fod yn darw gwyllt mewn eiliad, a chynnal ymosodiad ffyrnig a hir pan y gwnaethoch i bob pwrpas daclo'r swyddog i lawr concrid."
Bu'n rhaid i PC Priamo ddefnyddio ei wn Taser dair gwaith yn ystod yr ymosodiad, ond nid oedd modd iddo dawelu Francis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2019