Coronafeirws: Gwybodaeth i deithwyr

  • Cyhoeddwyd
Teithwyr yn gwisgo mygydauFfynhonnell y llun, JUSTIN TALLIS

Yn sgil datganiad Sefydliad Iechyd y Byd bod hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd o bryder rhyngwladol, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi codi'r risg i'r DU o isel i gymedrol.

Nid yw Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i beidio â theithio ar awyrennau ond mae teithwyr sydd yn dychwelyd i'r DU o wahanol wledydd ar draws y byd yn cael eu cynghori i ddilyn cyfarwyddiadau manwl er mwyn ceisio rhwystro'r firws rhag lledu ymhellach.

Y cyngor cyffredinol i deithwyr ydy i roi gwybod am unrhyw symptomau y maen nhw'n eu datblygu yn ystod yr hediad, ar adeg cyrraedd, neu ar ôl gadael y maes awyr.

Teithwyr sy'n dychwelyd o dramor

Arhoswch gartref ac osgowch gysylltiad â phobl eraill ar unwaith os ydych wedi teithio i'r DU o'r lleoedd canlynol yn y 14 diwrnod diwethaf, hyd yn oed os nad ydych chi'n arddangos unrhyw symptomau:

  • Iran

  • Talaith Hubei yn China

  • Rhannau penodol o'r Eidal (ardaloedd Lombardy, Emilia Romagna, Pesaro e Urbino, Piemonte a Veneto)

  • Unrhyw le yn Yr Eidal cyn neu ar 9 Mawrth

  • Daegu, Cheongdo or Gyeongsan yn Ne Korea

Arhoswch gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill os ydych wedi teithio i'r DU o'r lleoedd canlynol yn y 14 diwrnod diwethaf ac mae gennych beswch, tymheredd uchel neu drafferth anadlu, hyd yn oed os nad yw'ch symptomau yn ddifrifol o gwbl:

  • tir mawr China, y tu allan i dalaith Hubei

  • Yr Eidal, y tu allan i'r ardaloedd lle mae symudiadau wedi'u cyfyngu

  • De Korea, y tu allan i'r ardaloedd gofal arbennig

  • Cambodia

  • Hong Kong

  • Japan

  • Laos

  • Macau

  • Malaysia

  • Myanmar

  • Singapore

  • Taiwan

  • Gwlad Thai

Y cyngor gan Wasanaeth Iechyd Cymru ydy i beidio â mynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty ond yn hytrach i ffonio 111 (y gwasanaeth coronafeirws am ddim ar gyfer Cymru) i gael gwybod beth i'w wneud nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch coronafeirws, gan gynnwys sut mae ynysu eich hun adref, ar gael ar wefan Gwasanaeth Iechyd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Y neges i deithwyr sydd wedi cyrraedd Cymru o China

Cyngor teithio

Mae'r Swyddfa Dramor yn cynghori yn erbyn pob math o deithio i'r Eidal os nad yw'n hanfodol, oherwydd achos parhaus o coronafeirws ac yn unol â gwahanol reolaethau a chyfyngiadau a osodwyd gan awdurdodau'r Eidal ar 9 Mawrth.

Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.

Y gred ydy nad ydy coronafeirws yn bresennol yn yr awyr fel y mae feirws y ffliw yn debygol o fod, felly mae'n rhaid i bobl fod mewn cyswllt agos er mwyn ei ddal.

Yn ôl Gwasanaeth Iechyd Cymru mae cyswllt agos yn golygu bod llai na dau fetr i ffwrdd oddi wrth berson sydd â'r feirws am fwy na 15 munud.

Felly mewn gwirionedd mae'r risg posib o ddal y feirws ar drên neu ar fws yn dibynnu'n llwyr ar ba mor llawn ydyn nhw, ac fe fydd hyn yn amrywio o ardal i ardal, ac o daith i daith.

Yn ôl cwmni Network Rail maen nhw'n parhau gyda'u harferion arferol o ran glanhau cerbydau trên ond eu bod nhw'n paratoi ar gyfer achlysuron lle byddai angen cyflwyno system glanhau arbenigol mewn gorsafoedd.

Y cyngor i deithwyr yn gyffredinol yw'r un peth ac i bawb arall - golchwch eich dwylo, glanhewch arwynebau ble mae'n bosib a gwnewch yn siŵr eich bod yn tisian neu'n peswch i mewn i hances bapur a'i daflu'n syth.