Y Cymry sy'n gorfod aros yn eu tai oherwydd coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Wrth i fesurau brys llywodraeth yr Eidal ddod i rym fore Mawrth mewn ymgais i atal ymlediad coronafeirws, mae nifer o Gymry wedi cael eu heffeithio gan y sefyllfa.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 9,172 achosion o Covid-19 yn yr Eidal, gyda 463 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint.
Mae Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi rhybudd yn erbyn teithio i unrhyw ran o'r Eidal oni bai bod hynny'n hanfodol.
Mae nifer o Gymry sydd wedi teithio adref o'r Eidal yn y dyddiau diwethaf wedi cael eu heffeithio.
Hunan ynysu
Un sydd wedi dewis hunan ynysu am bythefnos yn eu cartref ar ôl dychwelyd o Fenis ydi Dewi Evans a'i deulu.
Dywedodd Mr Evans, sydd yn byw yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd wrth raglen y Post Cyntaf fore dydd Mawrth eu bod wedi cynllunio'r daith i'r Eidal ers tro.
"Roedd fy ngwraig yn 50 ac roedden ni wedi trefnu'r gwyliau yma ers tipyn o amser," meddai. "Naethon ni edrych ar y sefyllfa dydd Iau ac yn ôl pob cyfarwyddyd a gwybodaeth roedd y lle yn risg isel.
"Doedd 'na ddim cyfyngiadau yna. Doedd yr airline ddim yn fodlon newid yr amser hedfan. Doedd dim posib cael arian yn ôl am y gwesty. Doedd yr yswiriant ddim eisiau gwybod.
"Yn edrych ar bopeth ac yn gwybod fod 80% o bobl yn cael symptomau digon mild o'r feirws, mi wnaethon ni benderfyniad i fynd."
Ychwanegodd Mr Evans: "Wedyn ganol y bore ar y dydd Sul fe wnaethon nhw ehangu'r ardal waharddiad yn yr Eidal i faes awyr Marco Polo i ddod adra, ac wrth gwrs mae'r canllawiau wedi newid.
"Felly hunan ynysu ydi'r peth iawn i'w wneud... mi ddaeth 'na rywun â bara a llefrith i'n stepan drws ni ddoe - cymydog cyfeillgar iawn. Ac mae ganddo ni ordor o Tesco sy'n dod dydd Iau."
Fe ddaeth y teulu adref ddydd Iau ac mae Mr Evans yn aros i weld os bydd unrhyw aelodau'n datblygu symptomau.
"Dwi'n disgwyl gwybod erbyn canol wythnos yma os ydan ni wedi dal y feirws o gwbl, ac os ydan ni'n iawn erbyn dydd Gwener mae'n debyg y byddwn ni'n holliach."
'Gwaith ar stop'
Un sydd yn byw o dan y gwaharddiad teithio cenedlaethol yn yr Eidal ei hun ydy'r peiriannydd Dewi Rogers sy'n byw yn Perugia, Umbria.
Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Mawrth nad oedd newid anferth wedi bod ym mywydau pobl o ddydd i ddydd hyd yn hyn, ond fe allai'r sefyllfa newid.
"Dwi ddim yn gwybod faint mae o yn mynd i effeithio arnom ni yn fwy na mae wedi effeithio yn barod," meddai.
"Yn sicr mae'r gwaith sydd gennym ni yn Milan wedi dod i stop ar hyn o bryd.
"Roeddwn i fod i fynd i Rufain ddydd Gwener so fydd hwnna ddim yn mynd yn ei flaen. Ond mae'r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen yn y swyddfa."
Ychwanegodd Mr Rogers: "Ar hyn o bryd teithio o gwmpas y ddinas ydan ni felly 'dan ni ddim yn mynd tu allan i'r ardal honno, ond dydi hi ddim yn rhyfel yma. Dydi'r ffyrdd ddim wedi cau a phethau felly.
"Just bod nhw'n deud wrtho ni am deithio llai."
Aberthau
Mae'n credu fod y cyhoedd yn sylweddoli fod angen gwneud aberthau bychain dyddiol er mwyn ceisio atal lledaenu'r feirws.
"Dwi'n meddwl fod pobl yn sylweddoli fod rhaid ei wneud o - dwi'n meddwl fod 'na deimlad mae'n bosib fod y wasg yn gwneud pethau'n fwy dramatig hefyd.
"Y sôn ydi am faint o bobl sydd wedi cael y feirws, a faint o bobl sydd wedi marw. Ond does 'na ddim sôn am faint sydd wedi gwella ohono fo.
"Rhaid cofio hefyd o'r dechrau mae'r Eidal wedi bod yn profi mwy o bobl na'r rhan fwyaf o wledydd, felly mae hwn yn un rheswm arall pam fod mwy o bobl gyda fo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020