Chweched dosbarth: Ysgol v Coleg

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion ysgol a cholegFfynhonnell y llun, .

Lefel A mewn chweched dosbarth yn yr ysgol neu goleg - pa brofiad sydd orau i'n pobl ifanc?

Wrth i Gyngor Gwynedd ddechrau adolygiad newydd i drefn addysg ôl-16 yn y sir mae ymgyrchwyr wedi bod yn rhybuddio yn erbyn cau unrhyw adrannau chweched dosbarth.

Ond beth am farn y rhai sy'n mynd drwy'r sytem addysg ar hyn o bryd? Cymru Fyw sydd wedi gofyn i ddau sgwennu am eu profiad personol nhw - y naill mewn ysgol, a'r llall mewn coleg.

Gwenllian, disgybl Ysgol Brynrefail, Llanrug: "Mi wnai gofio fy nghyfnod i yn y chweched dosbarth am byth"

Ffynhonnell y llun, Ysgol Brynrefail

Dw i'n ddisgybl yn Ysgol Brynrefail ac yn dod i ddiwedd fy nghyfnod yn y chweched dosbarth. I unrhywun sy'n gofyn i mi, "be' ydi chweched dosbarth?", allai ddim meddwl am ateb sy'n cyfiawnhau'r profiad yn llawn. Ond erbyn hyn, fy ateb i yw: 'yr amser anodda' a'r gora' ti erioed wedi'i gael'.

Dw i 'di dysgu sgiliau fyswn i BYTH wedi'u dysgu oni bai i mi fynd i'r chweched dosbarth. Mae gennym gymaint o weithgareddau yn mynd ymlaen yn yr ysgol, e.e. yr eisteddfod ysgol (uchafbwynt y flwyddyn) lle mae'r chweched yn cymryd yr ysgol drosodd am hanner tymor cyfan i hyfforddi disgyblion i ganu, llefaru ac i ddawnsio.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Brynrefail
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion y chweched dosbarth yn canu’r anthem i gloi’r Eisteddfod ysgol

Disgyblion o'r chweched sydd yn cymryd rhan yn yr orsedd, y chweched sy'n hyfforddi ac sy'n arwain yr eisteddfod. Coeliwch fi, pan 'dw i'n dweud hyn, fyddai'r eisteddfod ddim yn mynd yn ei blaen heb y chweched wrth y llyw!

Cymuned glòs

Dw i'n meddwl mai un o'r pethau pwysicaf am y chweched dosbarth ydi'r gymuned glòs sydd yma. Mae'n gyfnod o dyfu i fyny, aeddfedu, ac yn sicr, all neb eich paratoi chi am y byd go iawn - go iawn - ond mae'r chweched yn cynnig rhwyd i chi ddisgyn iddo os dydi pethau ddim yn mynd yn ôl y cynllun gwreiddiol.

Os ydi meddwl am fynd ymlaen yn eich bywyd, swyddi, arholiadau neu broblemau personol yn mynd yn drech na chi, dim ond cerdded i mewn i'r ystafell gyffredinol sydd yn rhaid ei wneud a dach chi'n bendant am fod yn crio chwerthin o fewn pum munud o eistedd i lawr.

Does dim cywilydd mewn gofyn am help… allai ddweud fy mod i wedi gweld pawb yn gwylltio neu'n crio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae'r ffaith ein bod ni yn nabod ein gilydd erbyn hyn yn gwneud y profiad llawer haws, yn hytrach na dod i adnabod pawb o'r newydd.

Yr ysgol yn elwa

Yndi, mae o'n brofiad anhygoel i ni fel disgyblion y chweched dosbarth, ond mae'r effaith rydyn ni'n ei gael ar weddill yr ysgol yn un hanfodol ar gyfer cadw teimlad teuluol yr ysgol. Ni ydi'r brodyr a'r chwiorydd hŷn. Dilyn ein hesiampl ni mae'r disgyblion fengach, ac yn sicr ni sy'n pontio'r athrawon a'r disgyblion.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Brynrefail
Disgrifiad o’r llun,

Parti sy'n cael ei baratoi gan ddisgyblion y chweched dosbarth yn flynyddol i ddisgyblion Ysgol Pendalar, ysgol yng Nghaernarfon ar gyfer plant gydag anghenion addysgol arbennig

Yn aml iawn, byddwn yn mentora disgyblion iau mewn gwersi, ceisio eu cefnogi mewn pynciau craidd ynghyd â chymryd rhan mewn gweithgareddau ar gyfer yr ysgol. Byddai rhai yn dadlau ein bod ni'n gymorth mawr i'r athrawon (a fyddai'r athrawon yn cytuno sydd yn gwestiwn arall!)

Yn sicr, mi wnai gofio fy nghyfnod i yn y chweched dosbarth am byth; fy nghyfoedion, yr athrawon sydd yn fy nabod i ac yn gwybod yn union beth yw fy nghryfderau a fy ngwendidau, ac yn olaf yr oriau o chwerthin a mwynhau.

Iwan, myfyriwr Coleg Meirion Dwyfor: "Mae'r ffordd hamddenol, unedig ac integredig o ddysgu yn berffaith i mi."

Ffynhonnell y llun, Coleg Meirion Dwyfor

Un o fy hoff bethau am y coleg yw'r naws aeddfetach. Rwy'n cael y teimlad yna gan fod yr athrawon yn rhoi mwy o le i ni fod yn annibynnol. Yn wir, mae'n rhaid cymryd mwy o gyfrifoldeb ond mae hyn yn ein paratoi yn dda at y brifysgol. Rydw i hefyd yn hoff o'r sylw mae pob myfyriwr yn cael gan fod dosbarthiadau yn eithaf bach.

Hefyd, mae gwaith yn cael ei farcio yn gyflym iawn gan mai dim ond Lefel A yw ffocws y tiwtoriaid. Mae'r holl diwtoriaid yn arbenigwyr maes gyda rhai wedi rhyddhau adnoddau pwnc sy'n cael eu defnyddio ar safle we CBAC.

I mi'n bersonol, mae'n braf peidio bod mewn awyrgylch mor llym ag un ysgol. Yn amlwg mae disgyblaeth yn bresennol ond mae yna sgwrs lawer mwy naturiol rhwng myfyriwr a thiwtor. Mae'n amlwg fod myfyrwyr yn fwy cyfforddus yn yr awyrgylch gan fod mwy o gwestiynau yn cael eu gofyn ac mae yna ddigon o hwyl i gael mewn gwersi.

Profiadau eang

Rydw i yn ddiweddar wedi cael fy nerbyn i Ysgol Haf Harvard ac yn sicr ni fuaswn wedi gallu gwneud hyn heb gyfuniad o brofiadau a chefais yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

Defnyddiais wybodaeth a ddysgais ar y cwrs Ffrangeg, profiadau o drip coleg, a manteisio ar y cymorth a gefais gan y Pennaeth Maes Rhaglen er mwyn cwblhau'r cais. Rydw i hefyd yn hyderus y gallwn wneud cais i fynd i brifysgol yn yr U.D.A gan fod gan y coleg brofiad gyda helpu myfyriwr i fynd i [brifysgol] Stanford [yng Nghaliffornia] llynedd.

Eleni, cefais gyfle i fynd i Lundain ar daith gyda Busnes a Chyfraith. Cawsom gyfle i gyfarfod [yr Aelod Seneddol] Liz Saville-Roberts yn San Steffan ac fe wnes i fwynhau yn arw. Rwy'n falch fod y daith wedi cyfuno gyda'r Gyfraith oherwydd roedd y rhannau yma o'r daith yr un mor ddiddorol â'r elfen fusnes ac yn ehangu fy ngorwelion.

Defnydd da o dechnoleg

Yn ychwanegol, mae'n rhaid canmol y gwersi Ffrangeg, a'u defnydd o wersi cyfunol (erthyglau a ffilmiau Ffrengig yn ystod gwersi rhydd). Mae hyn yn rhan o'r broses o'n trochi ni yn y pwnc, er mwyn datblygu.

Mae llawer o'r tiwtoriaid yn defnyddio Google Classroom felly mae gwaith yn gallu cael ei rannu a'i farcio yn rhwydd ac yn unrhywle. Er enghraifft rydw i'n medru gwneud gwaith yn y dref wrth fwyta cinio a'i yrru i fy nhiwtoriaid.

Ar y cyfan, rydw i'n hapus iawn yma yn y coleg ac mae'r ffordd hamddenol, unedig ac integredig o ddysgu yn berffaith i mi.

Hefyd o ddiddordeb: