Coronafeirws: Pa mor ddifrifol ydy'r haint, a chwestiynau eraill
- Cyhoeddwyd
Wrth i nifer yr achosion o'r haint coronafeirws - Covid-19 - barhau i godi yng Nghymru fel yng ngweddill gwledydd y Deyrnas Unedig, dyma atebion i rai o'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn amlaf gan y cyhoedd:
1. Beth yw'r symptomau?
Mae coronafeirws newydd yn achosi symptomau tebyg i firysau anadlol eraill fel y ffliw.
Gall y rhain gynnwys:
Peswch
Teimlo'n brin o anadl
Tymheredd uchel
2. Sut allwch chi gael eich heintio â coronafeirws newydd?
Fel yr annwyd cyffredin, mae'r haint fel arfer yn digwydd trwy gyswllt agos â pherson sydd â'r haint.
Mae cyswllt agos yn golygu bod llai na dau fetr i ffwrdd oddi wrth berson sydd â'r feirws am fwy na 15 munud.
Gall rhywun hefyd gael ei heintio trwy gyffwrdd ag arwynebau halogedig os nad ydyn nhw'n golchi eu dwylo.
3. Sut alla i helpu i atal lledaeniad?
Ar hyn o bryd does dim brechlyn i atal coronafeirws. Y ffordd orau i atal yr haint yw osgoi dod ar draws y feirws trwy hylendid da.
Ond mae yna egwyddorion cyffredinol y gallwch ddilyn i helpu atal lledaeniad feirysau anadlol, gan gynnwys:
Golchi eich dwylo yn aml gyda dŵr a sebon am o leiaf 20 eiliad;
Defnyddiwch lanweithydd dwylo sy'n cynnwys canran alcohol sydd o leiaf 60% os nad oes dŵr a sebon ar gael;
Osgoi cyffwrdd â'ch llygaid, trwyn a'r geg gyda dwylo heb eu golchi;
Osgoi cyswllt agos gyda phobl sy'n sâl;
Os ydych yn teimlo'n anhwylus, arhoswch adref, peidiwch mynd i'r gwaith nac i'r ysgol;
Daliwch eich peswch neu disian mewn hances bapur, biniwch yr hances a golchwch eich dwylo gyda dŵr a sebon;
Bydd angen glanhau a diheintio gwrthrychau ac arwynebau a gyffyrddir yn aml yn amgylchedd y cartref a'r gwaith;
Hyd yn oed os nad oes gennych chi symptomau y cyngor yw i weithio o adref os yn bosib, ac osgoi mannau cyhoeddus fel tafarndai a sinemâu.
4. Oes modd dal y feirws oddi wrth bost/pecynnau?
Nid yw'r feirws yn goroesi'n dda y tu allan i'r corff, ac felly mae'n annhebygol iawn y gellir lledaenu coronafeirws drwy bost neu becynnau.
5. Oes modd dal y feirws oddi wrth fwyd/prydau parod?
Mae'n annhebygol iawn y gellir lledaenu coronafeirws trwy fwyd gan nad yw'r feirws yn goroesi ar arwynebau nac mewn bwyd.
Serch hynny, mae'n arfer hylendid da bob amser golchi'ch dwylo neu ddefnyddio glanweithydd dwylo cyn i chi fwyta.
6. Oes angen gwisgo mwgwd wyneb?
Nid oes angen gwisgo mwgwd wyneb os ydych chi'n iach.
7. Beth ddylwn i wneud os oes gen i neu rywun agos symptomau?
Os oes gennych chi symptopmau, neu'n byw gyda rhywun sydd a pheswch neu wres, arhoswch adref am 14 diwrnod.
Arhoswch o leiaf tri cham i ffwrdd o'r bobl eraill yn eich cartref os yn bosib.
Os ydy eich symptomau'n gwaethygu neu ddim yn gwella ar ôl saith diwrnod dylech chi ffonio'r gwasanaeth iechyd ar 111.
Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi fynd i'r ysbyty os oes angen triniaeth bellach arnoch.
8. Pa mor ddifrifol ydy coronafeirws?
Cyfran isel iawn o bobl sydd â Covid-19 sy'n marw ohono. Mae ffigyrau'n awgrymu mai tua 1-2% sy'n marw, ond mae arbenigwyr yn cydnabod nad yw'r data yn ddibynadwy.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae tua 6% yn mynd i gyflwr difrifol iawn - yr iau neu organau eraill yn methu, a pherygl i fywyd.
Mae tua 14% yn datblygu symptomau difrifol, fel trafferthion yn anadlu.
Mae tua 80% yn datblygu symptomau ysgafn - wres a pheswch, a niwmonia mewn rhai achosion.
Mae pobl hŷn a rheiny sydd â chyflyrau fel asthma, diabetes, pwysau gwaed uchel neu gyflwr ar y galon yn fwy tebygol o gael symptomau difrifol.
Y ffordd mae'r gwasanaeth iechyd yn trin achosion difrifol yw ceisio cynnal y corff, gan gynnwys ei helpu i anadlu, nes bod eu system imiwnedd yn gallu trechu'r feirws.
Does dim disgwyl i frechlyn yn erbyn Covid-19 fod ar gael nes haf 2021.