Cadarnhau pedwar achos arall o coronafeirws yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar achos arall o coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm yma i 19.
Dydy un o'r rheiny heb deithio i wlad sydd wedi ei effeithio'n wael gan y feirws, sy'n golygu mai dyma'r achos cyntaf yng Nghymru o'r feirws yn cael ei drosglwyddo o fewn y gymuned.
Mae'r unigolyn yma yn byw yn ardal Caerffili, a dyw hi ddim yn glir a ydy'r claf wedi bod mewn cysylltiad ag achos arall sydd wedi ei gadarnhau.
Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru mae'r tri achos newydd arall yn gleifion sydd wedi dychwelyd o ogledd Yr Eidal yn ddiweddar.
Mae dau o'r rheiny yn byw yn ardal Powys tra bo'r llall yn byw yn ardal Abertawe.
Daw'r achosion newydd wrth i Sefydliad Iechyd y Byd labelu gwasgariad yr haint fel "pandemig".
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock wrth Dŷ'r Cyffredin nos Fercher: "Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r niferoedd fod ar ru huchaf yn y pythefnos nesaf.
"Rydyn ni'n disgwyl i'r niferoedd barhau i godi ar ôl hynny, ac yna byddai'r achosion ar eu huchaf mewn cwpl o fisoedd, yn hytrach na cwpl o wythnosau."
Daeth i'r amlwg ddydd Mercher bod heddwas gyda Heddlu De Cymru ym Merthyr Tudful a gweithiwr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd â Covid-19.
Cymryd 'camau priodol'
Dywedodd y prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton: "Mae'r holl unigolion yn cael eu rheoli mewn lleoliadau clinigol addas.
"Mae'r holl gamau priodol yn cael eu cymryd i ofalu am yr unigolion ac i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws i eraill."
Ychwanegodd eu bod wastad wedi disgwyl i'r nifer sydd yn profi yn bositif gynyddu fel sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill.
"Mae canfod y saith unigolyn yn gysylltiedig â'r unigolyn gyda coronafeirws sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dangos bod yr olrhain cysylltiadau a'r profi cymunedol sy'n cael eu cynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio fel y dylent," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020