Naw achos newydd o coronafeirws yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Uned brofi gymunedol yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn LlanfairfechanFfynhonnell y llun, BIPBC
Disgrifiad o’r llun,

Uned brofi gymunedol yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan

Mae naw achos arall o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru - gyda'r cyfanswm yma bellach yn 15.

Roedd saith o'r naw yn gysylltiedig ag achos arall o'r feirws yn ardal Castell-nedd Port Talbot, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun.

O'r rheiny, mae un yn byw yn ardal Caerdydd, un o ardal Abertawe a'r pump arall o ardal Castell-nedd Port Talbot.

Roedd y ddau arall wedi dychwelyd o ogledd Yr Eidal gyda'i gilydd ac maen nhw'n dod o Sir Gâr.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton: "Fe allaf gadarnhau bod naw claf arall wedi cael prawf positif ar gyfer coronafeirws (Covid-19), sydd yn dod â'r cyfanswm o achosion yng Nghymru i 15.

"Mae'r unigolion yn cael eu rheoli mewn lleoliadau priodol yn glinigol yn seiliedig ar asesiad gan ymgynghorydd clefydau heintus arbenigol.

"Rydyn ni wastad wedi bod yn glir ein bod ni'n disgwyl i nifer yr achosion positif gynyddu, sy'n unol â'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd.

"Mae adnabod y saith unigolyn sy'n gysylltiedig ag achos preswylwyr Castell-nedd Port Talbot yn dangos bod yr olrhain cyswllt a'r profion cymunedol sy'n cael eu cynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio fel y dylai."

Cafodd yr achos cyntaf o'r coronafeirws yng Nghymru - yn Abertawe - ei gyhoeddi ar 28 Chwefror.