Gwrthod cais i adeiladu 77 o dai fforddiadwy yn Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi gwrthod cais i adeiladu 77 o gartrefi fforddiadwy yn Sir Ddinbych.
Roedd y cynllun yn Rhuthun ar safle drws nesaf i stad Glasdir, gafodd ei difrodi gan lifogydd yn 2012.
Ymhlith y rhesymau dros wrthwynebu oedd y risg o lifogydd pellach, pryderon am draffig ger dwy ysgol ac effaith weledol y tai.
Mae'r safle wedi ei glustnodi ar gyfer cartrefi yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych, ac roedd swyddogion yn argymell cymeradwyo'r cais cynllunio gan Gymdeithas Dai ClwydAlyn.
Ond gwrthododd pwyllgor cynllunio'r cyngor y cais o naw pleidlais i bedair.
'Atal adeiladu ar orlifdir'
Soniodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Bobby Feeley, am y risg o lifogydd yn sgil y tai newydd, y mae'n honni sydd ar orlifdir.
"Dylen ni adolygu ein Cynllun Datblygu Lleol ar unwaith a rhoi'r gorau i adeiladu ar orlifdir," meddai.
Yn flaenorol dywedodd ClwydAlyn nad oedd y safle ar orlifdir, gan gyfeirio at y gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd gafodd eu cwblhau yn 2014.
Roedd cynlluniau i liniaru'r risg hefyd ynghlwm â'r cais cynllunio.
Yn eu hadroddiad i'r pwyllgor, roedd swyddogion y cyngor wedi nodi eu hamheuon am ddyluniad y datblygiad, gan ddweud mai "ychydig" o ystyriaeth oedd wedi ei roi i'r ffordd mae'n gweddu â'r tai sydd wedi eu codi yn barod.
Cafodd hyn ei ategu gan un arall o aelodau'r dref, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.
"Mae'n dipyn o liquorice allsorts - mae 'na garreg, mae 'na gladin, mae 'na bren pren, mae 'na ffensys," meddai.
"Dwi'n teimlo'n gryf nad ydy cymeriad y datblygiad yn cydweddu â'r dref."
Ymateb cymdeithas dai
Wrth ymateb i benderfyniad y pwyllgor cynllunio, dywedodd Craig Sparrow ar ran ClwydAlyn: "Yn amlwg mae ClwydAlyn wedi ei siomi fod y pwyllgor cynllunio'n teimlo na allant gefnogi ein cynllun y tro hwn.
"Rydym yn gweithio'n ddiflino mewn partneriaeth gyda'r cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn darparu atebion i broblem cyflenwad tai yn y sir ac fe fyddwn yn trafod ymhellach er mwyn darganfod ffordd ymlaen ar gyfer y stad tai yma."
Ychwanegodd: "Mae Glasdir yn safle dai penodedig oedd fod i ddenu swm sylweddol o arian i Ruthun gan Lywodraeth Cymru ac fe fydd yn rhaid i ni asesu effaith y penderfyniad.
"Byddwn yn trafod ymhellach gyda'r swyddogion cynllunio oedd yn cefnogi'r cais hwn mewn ysbryd partneriaeth a'r berthynas barhaus ardderchog sydd gennym ni gyda Sir Ddinbych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Awst 2018