Coronafeirws: Gohirio cystadleuaeth y Pro14 am gyfnod amhenodol
- Cyhoeddwyd
Mae cystadleuaeth y Pro14 wedi cael ei gohirio am gyfnod amhenodol oherwydd coronafeirws.
Roedd Rownd 14 o'r gystadleuaeth - sy'n cynnwys timau o Gymru, Iwerddon, Yr Alban, Yr Eidal a De Affrica - i fod i gael ei chynnal dros y penwythnos yn dechrau ar 20 Mawrth.
Roedd gemau'r timau o'r Eidal, eisoes wedi cael eu heffeithio, gyda'r Gweilch yn gohirio eu gêm yn erbyn Zebre, ac Ulster yn gwneud yr un peth gyda'u gornest yn erbyn Benetton ddiwedd Chwefror.
Mae rownd derfynol y gystadleuaeth i fod i gael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 20 Mehefin.
Gohirio er lles pawb
Dywedodd gweinyddwyr y gynghrair y byddan nhw'n adolygu'r sefyllfa yn barhaus, i weld pryd y gellir ail-ddechrau'r gystadleuaeth.
"Rydym wedi gwneud y penderfyniad yma gyda lles pawb yn flaenllaw yn ein meddyliau," meddai cyfarwyddwr y Pro14, David Jordan.
"Gyda'r sefyllfa yn newid yn gyson yn y pum gwlad sy'n cymryd rhan, mae'n bwysig gwneud penderfyniad clir sy'n gydnaws â chyngor y gwahanol lywodraethau."
Gyda gwaharddiad ar deithio mewn grym yn Yr Eidal, roedd gemau Zebre yn erbyn Gleision Caerdydd ar 21 Mawrth, a Benetton yn erbyn Munster, yr wythnos wedyn, yn y fantol.
Roedd Benetton wedi cael caniatâd i deithio i Gasnewydd ar gyfer eu gêm yn erbyn y Dreigiau ar 6 Mawrth ar ôl rhoi sicrhad nad oedd unrhyw un o'u chwaraewyr na staff wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un oedd yn dioddef o'r haint.
Ar hyn o bryd mae Leinster ar frig Adran A, a heb golli gêm, ac mae Caeredin ar y blaen yn Adran B.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020