Plaid Cymru'n galw am ohirio digwyddiadau torfol

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Mae Plaid Cymru wedi galw ar yr awdurdodau i ohirio digwyddiadau torfol, yn cynnwys y gêm rhwng Cymru a'r Alban ddydd Sadwrn, yn dilyn ymlediad haint coronafeirws.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y dylai llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig ohirio neu ganslo digwyddiadau torfol a gemau chwaraeon am y tro mewn ymdrech i gyfyngu ar effaith yr haint.

Dywedodd Mr Price y gallai "ymbellhau cymdeithasol" arafu'r feirws, ac mae wedi galw am becyn o fesurau gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys galw ar bobl i weithio o adref pan yn bosib, cau ysgolion a cholegau, cynyddu'r profion iechyd ac agor unedau gofal dros dro.

Ychwanegodd y dylai "holl arweinwyr gwleidyddol" sylweddoli y byddai gweithredu heddiw'n gallu golygu'r "gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth".

"Fel rhan o becyn o fesurau, dylai Llywodraeth Cymru ystyried galw ar weithwyr sector cyhoeddus i weithio o gartref os yn bosib," meddai.

"Fe ddylen ni roi ystyriaeth lawn i'r syniad fod ein hysgolion yn cau ar gyfer gwyliau Pasg cynnar ac fe ddylai'r gweinidog addysg wneud datganiad brys ar ba mor hyfyw ydi e-ddysgu ac unrhyw effaith ar arholiadau Safon Uwch a TGAU."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies yn sgorio cais yn erbyn Yr Alban y llynedd

Ychwanegodd: "Fe ddylai pob cyfarfod a digwyddiad torfol gael eu gohirio neu eu canslo ar fyrder - byddai hyn yn golygu dim cyfarfodydd dan do sy'n fwy na 100 o bobl a dim digwyddiadau awyr agored mwy na 500.

"Fe ddylai'r ornest Chwe Gwlad ar y penwythnos gael ei gohirio am y tro. Dylai profion coronafeirws gynyddu'n sylweddol ac fe ddylid sefydlu unedau gofal dros dro."

Cynhadledd

Yn gynharach ddydd Iau fe ohiriodd Plaid Cymru ei chynhadledd wanwyn yn Llangollen o achos pryderon am y pandemig coronafeirws.

Yn y cyfamser mae hyfforddwr tîm rygbi'r Alban wedi dweud y byddai'n synnu os caiff y gêm rhwng Cymru a'r Alban ei gohirio o achos coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hyfforddwr Yr Alban, Gregor Townsend

Dywedodd Gregor Townsend y byddai'r Alban yn gwrando ar unrhyw gyfarwyddiadau gan yr awdurdodau, ond ei fod yn disgwyl i'r gêm fynd yn ei blaen.

"Rydym wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau a threfniadau o ran cyswllt a golchi dwylo," meddai.

"Rydym yn gobeithio y cawn ni chwarae'r penwythnos hwn. Rydym yn deall os mai nid dyma fydd yr achos fe fydd am resymau difrifol.

"Rydym ddeuddydd i ffwrdd o'r gêm. Fe wnaethon ni chwarae penwythnos diwethaf. Dwi'n deall fod pethau'n symud yn gyflym, ond rydym ddeuddydd i ffwrdd ac felly fe fyddai'n syndod petai'r gêm yn cael ei gohirio mor hwyr."