Gareth Bale a charfan Real Madrid mewn cwarantîn
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Bale a charfan Real Madrid wedi eu rhoi mewn cwarantîn yn Sbaen, gyda holl gemau uwch gynghrair La Liga yno wedi eu gohirio "am o leiaf y ddwy rownd nesaf".
Cafodd y chwaraewyr eu rhoi mewn cwarantîn wedi i un o chwaraewyr tîm pêl-fasged Real Madrid, sy'n rhannu cyfleusterau gyda'r tîm pêl-droed, brofi'n bositif am coronafeirws.
Roedd Real i fod i chwarae yn erbyn Manchester City yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.
Mae'r clwb wedi cau'r adnoddau yn safle hyfforddi'r clwb.
"Mae'r penderfyniad wedi ei wneud i roi tîm cyntaf pêl-fasged a thîm cyntaf pêl-droed y clwb mewn cwarantîn, o gofio fod y ddau dîm yn rhannu adnoddau yn Ciudad Real Madrid," meddai datganiad y clwb.
Ramsey i hunan ynysu
Yn y cyfamser mae asiantaeth newyddion Reuters yn adrodd y bydd carfan gyfan clwb Juventus yn treulio pythefnos mewn cwarantîn, wedi i un o chwaraewyr y clwb brofi'n bositif am coronafeirws.
Ymysg y garfan sydd yn gorfod hunan ynysu mae'r Cymro Aaron Ramsey.
Dywedodd y chwaraewr, yr amddiffynnwr canol Daniele Rugani, ei fod yn "iawn" yn dilyn canlyniad y prawf.
Mae holl gemau chwaraeon Yr Eidal wedi eu gohirio tan 3 Ebrill yn dilyn ymlediad yr haint drwy'r wlad.
Roedd Gareth Bale ac Aaron Ramsey i fod i chwarae yn gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Awstria a'r Unol daleithiau ar 27 a 30 Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020