Coronafeirws: Gall Ramsey fethu gemau cyfeillgar Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey yn chware i glwb Juventus o ddinas Turin yn yr Eidal

Mae'n bosib y bydd chwaraewr Aaron Ramsey yn methu gemau cyfeillgar Cymru fis yma oherwydd mesurau llym yn yr Eidal i geisio atal coronafeirws rhag lledu.

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n asesu'r sefyllfa cyn y gemau cyfeillgar yn erbyn Awstria a'r Unol daleithiau ar 27 a 30 Mawrth.

Awgrymodd CBDC mai'r awdurdodau yn yr Eidal fydd yn penderfynu os fydd chwaraewr canol cae Juventus yn cael teithio i'r gemau ai peidio.

Mae cyfyngiadau ar deithio ac ymgynnull yn rhan o'r mesurau brys yn yr Eidal, lle mae dros 9,000 wedi eu heintio â'r feirws, a dros 450 wedi marw.

Mae nifer o gemau chwaraeon yn y wlad wedi cael eu gohirio am y tro fel rhan o'r camau brys.

Mae Cymru i fod i chwarae yn erbyn yr Eidal yn Rhufain yng nghystadleuaeth Ewro 2020 ar 21 Mehefin.