Cap cyntaf i'r prop WillGriff John yn erbyn Yr Alban

  • Cyhoeddwyd
WillGriff JohnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd WillGriff John ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y Chwe Gwlad eleni

Bydd prop Sale, WillGriff John yn ennill ei gap cyntaf i Gymru wrth iddyn nhw groesawu'r Alban i Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.

Mae pedwar newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Loegr yn Twickenham ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad ers bron i ddwy flynedd a hanner, gan gymryd lle Tomos Williams.

Mae clo'r Dreigiau, Cory Hill yn cymryd lle Jake Ball oherwydd anaf, tra bod Wyn Jones yn dychwelyd i'r tîm yn lle Rob Evans.

Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal â'r record am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol ddydd Sadwrn

Fe fydd y capten, Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal â record Richie McCaw o Seland Newydd am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol, wrth iddo ennill ei 148fed cap.

Bydd Jones yn ennill cap rhif 139 dros Gymru ddydd Sadwrn, ac mae wedi gwneud naw ymddangosiad i'r Llewod hefyd.

Y gêm rhwng Cymru a'r Alban yw'r unig un sy'n mynd yn ei blaen yn y gystadleuaeth y penwythnos hwn, wedi i'r gemau yn Ffrainc a'r Eidal gael eu gohirio.

Grey line

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Wyn Jones, Ken Owens, WillGriff John, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capt), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carré, Leon Brown, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.