Pobl leol 'methu fforddio prynu tai' ym Mhenmachno

  • Cyhoeddwyd
Penmachno
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2019 dangosodd adolygiad fod 88 o blith 390 o dai Penmachno yn dai haf

Mae pryderon fod cynnydd yn nifer tai haf pentref Penmachno, Sir Conwy yn atal pobl leol rhag prynu tai yn eu bro genedigol am eu bod yn rhy ddrud.

Yn ôl adolygiad gan Gyngor Sir Conwy yn ddiweddar mae 23% o dai yn yr ardal yn dai haf.

Dywedodd rhai o bobl ifanc yr ardal wrth BBC Cymru fod ceisio fforddio tŷ yn y pentre' yn "anodd iawn".

Ar hyn o bryd mae gan gynghorau lleol y pwerau i godi trethi ychwanegol ar berchnogion ail dai ond does ganddyn nhw ddim hawl i stopio perchnogion rhag eu rhentu i eraill.

Yn Ebrill 2019 fe gyflwynodd Cyngor Conwy bremiwm o 25% ar dreth gyngor i ail gartrefi ond mae nifer o bryderon am y nifer cynyddol o ail dai sy'n cael eu dynodi i fusnesau - sy'n golygu nad yw perchnogion yn talu treth cyngor o gwbl.

Yn 2019 dangosodd adolygiad fod 88 o blith 390 o dai Penmachno yn dai haf.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae pobl o'r dinasoedd yn gweld prisiau Penmachno yn rhad', medd Sioned Davies

Mae Sioned Davies o Benmachno wedi bod yn ceisio prynu tŷ ers dros flwyddyn bellach ac er ei bod yn gweithio'n llawn amser mae prynu tŷ yn profi'n anodd.

"Ma'n anodd iawn ffeindio tŷ am bris call", meddai.

"Mae nhw gyd bron iawn dros £200,000 a dwi methu fforddio hynna, 'na neb lleol chwaith."

Yn ôl Sioned, "mae lot [o bobl] o'r dinasoedd mawr yn gweld tŷ am ryw £100,000/ £150,00 ac yn gweld o'n rhad ond mae'r pris i ni yn ddrud".

Pam ddylwn i symud?

Mae Meinir Hughes sy'n 33 oed a hefyd o Benmachno mewn sefyllfa debyg. Mae hi wedi bod yn ceisio prynu tŷ yn lleol ers 8 mlynedd ond wedi methu.

"Dwi eisiau aros ym Mhenmachno ond allai jest ddim fforddio tŷ yma", meddai.

"'Swn i'n licio bod yn annibynnol a chael cartref fy hun a dwi'm yn gweld pam dylwn i orfod symud o fy mhentre' genedigol i wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Meinir Hughes, sy'n athrawes, ei geni ym Mhenmachno ond dyw hi methu fforddio tŷ yno

Gyda bron i chwarter y tai ym Mhenmachno bellach yn cael eu harddangos ar wefannau fel Airbnb a Booking.com, dywedodd y Eryl Owain, Is- gadeirydd Cyngor Plwyf Penmachno fod yr effaith yn bellgyrhaeddol.

"Yr effaith weledol ydi bod y pentre' yn wag ond yr effaith yn gymdeithasol yw bod o'n gwaedu'r pentref," meddai.

"Mae 'na rai sy'n dymuno sefydlu yma gyda'u teuluoedd ond yn methu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Penmachno yn denu seiclwyr a cherddwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n deall fod tai haf yn gallu gwneud hi'n anodd i bobl leol brynu tŷ ond eu bod yn gobeithio "cyflawni eu haddewid" o adeiladu ugain mil o dai fforddiadwy erbyn diwedd y tymor gwleidyddol nesaf.