Sala: Hediadau anghyfreithlon yn 'digwydd pob dydd'

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson yn y digwyddiad ym mis Ionawr 2019

Mae hediadau anghyfreithlon yn digwydd yn ddyddiol a dylai marwolaeth Emiliano Sala fod yn drobwynt o ran hynny, yn ôl corff blaenllaw.

Bu farw'r pêl-droediwr a'r peilot David Ibbotson wrth i'w hawyren blymio i Fôr Udd ym mis Ionawr 2019 wrth hedfan o Ffrainc i Gymru.

Dywedodd adroddiad terfynol y gangen ymchwilio damweiniau awyr (AAIB) ddydd Gwener nad oedd y peilot na'r awyren wedi'u trwyddedu ar gyfer yr hediad.

Yn ôl Dave Edwards, prif weithredwr Cymdeithas y Siartr Awyr, "pe bai'n hediad cyfreithlon byddai adegau wedi bod pan fyddai pobl wedi dweud 'stop'".

Sala yn anymwybodol

Fe wnaeth Sala, 28, arwyddo i Gaerdydd o Nantes ym mis Ionawr 2019.

Roedd yn teithio i'r brifddinas er mwyn cymryd rhan yn ei sesiwn hyfforddi gyntaf gyda'i glwb newydd pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cafodd ei gorff ei dynnu o weddillion yr awyren ar waelod Môr Udd yn ddiweddarach, ond dydy corff Mr Ibbotson heb ei ddarganfod.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emiliano Sala ei gyhoeddi fel chwaraewr Caerdydd ddeuddydd yn unig cyn ei farwolaeth

Dywedodd adroddiad yr AAIB bod yr awyren wedi dechrau torri'n ddarnau yn yr awyr tra bo Mr Ibbotson wedi brwydro i adennill rheolaeth ohoni.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad y byddai Sala wedi bod yn anymwybodol yn ystod y ddamwain ar ôl cael ei wenwyno gan nwy carbon monocsid oedd wedi gollwng i gaban yr awyren Piper Malibu.

'Y gwahaniaeth yn amlwg'

Mae'n datgelu hefyd nad oedd gan y gosodwr nwy 59 oed o Sir Lincoln drwydded i hedfan yr awyren y noson honno o gwbl.

Roedd ei drwydded ar gyfer y math yma o awyren wedi dod i ben ym mis Tachwedd 2018, felly roedd ei drwydded beilot breifat yn gwbl annilys.

"Os ydych chi'n edrych ar yr hediad yma, mae'n amlwg gweld y gwahaniaeth y byddai siarter gyfreithlon wedi'i wneud o'i gymharu ag un anghyfreithlon," meddai Mr Edwards.

Mae hediad yn un anghyfreithlon pan nad yw'r awyren neu'r peilot â'r trwyddedau cywir ar gyfer hediadau penodol.

Ffynhonnell y llun, AAIB/PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Emiliano Sala ei dynnu o weddillion yr awyren ar waelod Môr Udd

Dywedodd adroddiad yr AAIB hefyd nad oedd gan Mr Ibbotson hawl i hedfan unrhyw awyren gyda'r nos oherwydd ei fod yn lliwddall.

Doedd dim hawl ganddo i dderbyn tâl am hedfan chwaith, ond dywedodd yr adroddiad bod "tystiolaeth sylweddol" ei fod yn disgwyl cael ei dalu am yr hediad.

'Gwybod ei fod yn digwydd'

Ychwanegodd Mr Edwards bod nifer yn y diwydiant yn gwybod bod hediadau anghyfreithlon yn digwydd ond ei bod yn anodd mesur faint yn union sy'n cael eu cynnal.

"Mae'r diwydiant wedi dweud ers amser hir bod elfen anghyfreithlon," meddai.

"Weithiau mae'n anodd asesu, ond rydyn ni yn gwybod ei fod yn digwydd - mae'r rheiny ohonom sy'n gweithio ar y llain lanio yn ei weld pob dydd."