Dim achos o ddynladdiad wedi marwolaeth Emiliano Sala
- Cyhoeddwyd
Mae dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn achos marwolaeth Emiliano Sala wedi ei ryddhau heb gyhuddiad.
Fe gafodd y pêl-droediwr ei ladd mewn damwain awyren ynghyd â'r peilot David Ibbotson, ddeuddydd ar ôl i'r pêl-droediwr arwyddo i dîm Caerdydd yn Ionawr 2019.
Ym mis Mehefin y llynedd, cyhoeddodd Heddlu Dorset eu bod wedi arestio dyn 64 oed o ogledd Sir Efrog.
Dywed yr heddlu ddydd Mercher na fyddan nhw'n gofyn i'r Gwasanaeth Erlyn fwrw 'mlaen gyda chyhuddiadau yn erbyn y dyn.
"Rydym wedi cynnal archwiliad manwl i amgylchiadau marwolaeth Mr Sala, ac mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth, gan archwilio tystiolaeth helaeth ar y cyd gyda nifer o sefydliadau," meddai'r ditectif arolygydd Simon Huxter o Heddlu Dorset.
"Mae ymchwiliad yn parhau i amgylchiadau'r daith awyren ac felly byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach."
Mae disgwyl i adroddiad terfynol i achos y ddamwain gael ei gyhoeddi ddydd Gwener gan gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr.
Roedd Sala, 28, yn teithio o Nantes i Gaerdydd ar 21 Ionawr 2019 pan blymiodd yr awyren i'r môr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd14 Awst 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2019