Cadarnhau 22 achos newydd o coronafeirws yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 22 achos newydd o'r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion i 60.
Mae'r cyhoeddiad ddydd Sadwrn yn cynnwys 10 person yn Abertawe, a'r achosion cyntaf yn siroedd Conwy a Phen-y-bont ar Ogwr.
Daw hynny wrth i ffynhonnell o Lywodraeth y DU ddweud wrth y BBC eu bod yn paratoi cynlluniau ar gyfer cyflwyno gwaharddiad ar ddigwyddiadau mawr yn sgil ymlediad yr haint.
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi cyflwyno gwaharddiad o'r fath eto, ond mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cymryd camau.
Canslo gemau ac etholiadau
Mae'r achosion newydd yn cynnwys 10 person yn Abertawe, yn ogystal â chleifion yng Nghaerffili, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Powys, Caerdydd, Sir Gâr, Conwy a Phen-y-bont ar Ogwr.
"Mae'r cleifion i gyd yn cael eu gofalu amdano mewn amgylchiadau clinigol priodol yn seiliedig ar asesiad ymgynghorydd arbenigol ar afiechydon heintus," meddai Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ychwanegodd Dr Williams fod bron i 1,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu profi, a'u bod yn parhau i weithio gyda'r llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd i atal yr haint rhag ymledu.
"Mae gan y cyhoedd rôl hanfodol wrth gyfyngu ymlediad yr haint, ac rydyn ni'n annog pobl i olchi eu dwylo'n amlach ac am 20 eiliad," meddai.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bellach wedi cyhoeddi cyfyngiadau ar ymwelwyr i holl ysbytai'r dalgylch, gan gynnwys wardiau cymunedol ac iechyd meddwl.
Dim ond rhwng 15:00 a 16:00 y bydd modd ymweld â chleifion, a hynny un ar y tro - ond fydd dim ymwelwyr yn cael eu caniatáu o gwbl ar gyfer achosion Covid-19.
Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi dweud na fydd unrhyw ddarlithoedd na seminarau yn cael eu cynnal wyneb i wyneb o 23 Mawrth ymlaen hyd nes diwedd y tymor.
Ddydd Sadwrn cafwyd cadarnhad bod 10 person arall yn Lloegr wedi marw o'r haint - gan ddod â'r cyfanswm ar draws y DU i 21.
Dywedodd y prif swyddog meddygol yn Lloegr fod pob un o'r cleifion fu farw mewn categori o "risg".
Ar draws y DU mae 1,140 achos o coronafeirws wedi eu cadarnhau, a dros 37,000 o bobl wedi cael eu profi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu canslo llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw, wrth i'r gwasanaeth iechyd baratoi am gyfnod heriol.
Ond er nad ydyn nhw wedi gwahardd digwyddiadau torfol eto, fe ddywedon nhw y byddan nhw'n "atal cefnogaeth wirfoddol staff gwasanaethau brys y GIG" ar gyfer digwyddiadau o'r fath.
Mesurau llymach
Ddydd Gwener cafwyd cadarnhad fod etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, oedd i fod i gael eu cynnal ym mis Mai eleni, bellach wedi eu gohirio nes 2021.
Mae nifer o ddigwyddiadau, gwyliau a gemau chwaraeon yng Nghymru hefyd wedi cael eu canslo neu ohirio, gan gynnwys gêm Chwe Gwlad Cymru a'r Alban a gemau pêl-droed ar bob lefel.
Ond mae cyn-Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Jeremy Hunt wedi cwestiynu penderfyniad y llywodraeth yn San Steffan i ddal yn ôl rhag penderfynu bod rhaid canslo digwyddiadau mawr.
Yn yr Alban mae'r llywodraeth eisoes wedi dweud y dylai unrhyw ddigwyddiadau gyda mwy na 500 o bobl gael eu canslo o'r wythnos nesaf ymlaen.
Mae nifer o wledydd eraill yn Ewrop gan gynnwys Sbaen a'r Eidal wedi cyflwyno mesurau llymach i atal pobl rhag teithio ac ymgynnull.
Mae cwmni awyrennau Jet2 bellach wedi atal hediadau o Brydain i dir mawr ac ynysoedd Sbaen, ac fe fydd yr UDA yn gwahardd hediadau o'r DU o ddydd Mawrth ymlaen.
Achosion yng Nghymru:
Abertawe (14)
Castell-nedd Port Talbot (11)
Caerffili (7)
Caerdydd (5)
Powys (5)
Sir Gâr (4)
Sir Fynwy (4)
Casnewydd (2)
Sir Benfro (2)
Blaenau Gwent (1)
Conwy (1)
Sir y Fflint (1)
Pen-y-bont ar Ogwr (1)
Wrecsam (1)
Ynys Môn (1)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020