Coronafeirws: Pa ddigwyddiadau sydd wedi'u gohirio neu ganslo?

  • Cyhoeddwyd
Prif adeilad Sain FfaganFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae holl safleoedd Amgueddfa Cymru ar gau yn dilyn y cyngor diweddaraf

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu canslo neu eu gohirio yn sgil pryderon am haint coronafeirws.

Fore Llun fe gyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru na fydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych yn cael ei chynnal eleni.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei gohirio tan 2021, gydag Eisteddfod Sir Gaerfyrddin hefyd yn cael ei symud o 2021 i 2022.

Dywed y mudiad y bydd tri gwersyll yr Urdd yn cau am y tro, ac fe fydd holl eisteddfodau lleol a rhanbarthol yr Urdd yn cael eu canslo hefyd.

Mae pob cystadleuaeth chwaraeon cenedlaethol a phob gweithgaredd gymunedol hefyd wedi eu canslo nes bydd rhybudd pellach.

Ddydd Mawrth, dywedodd Yr Eglwys yng Nghymru na ddylid cynnal gwasanaethau, gan awgrymu gohirio unrhyw briodasau sydd wedi eu trefnu hyd at ddiwedd Gorffennaf.

Mae'r Eglwys hefyd yn argymell ddim mwy na 10 person mewn bedydd, ac i gynnal angladdau mewn amlosgfa neu ar bwys bedd yn unig.

Bydd gwasanaethau derbyn oedd wedi eu trefnu hyd at fis Mehefin yn cael eu gohirio.

Y rhestr hyd yma:

Pêl-droed

  • Holl gemau pêl droed domestig Cymru (gohirio tan o leiaf 4 Ebrill)

  • Pob gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr a'r Gynghrair Bêl-droed (gohirio tan o leiaf 4 Ebrill)

  • Cymru C v Lloegr C (24 Mawrth) - canslo

  • Cymru v Awstria (27 Mawrth) - canslo

  • Gêm Cymru v UDA (30 Mawrth) - canslo

  • Pencampwriaeth Euro 2020 wedi'i gohirio tan 2021 - roedd Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol (Mehefin-Gorffennaf)

Rygbi

Rhedeg

  • Ras 10k Bae Caerdydd (29 Mawrth) - gohirio nes 15 Tachwedd

  • Ras Marathon a 10k Casnewydd (19 Ebrill) - gohirio nes 25 Hydref

  • Pob Parkrun yn y DU - canslo nes diwedd Mawrth ar y cynharaf

  • Hanner Marathon Llwybrau Abertawe - gohirio nes 31 Hydref

Rasio Ceffylau

  • Bydd holl rasus ceffylau Prydain yn cael eu hatal tan ddiwedd Ebrill - roedd tri diwrnod o rasio wedi'u trefnu ar galendr cwrs rasio Ffoslas, a phedwar diwrnod ar gwrs Câs-gwent

Gwleidyddiaeth

  • Cynadleddau gwleidyddol Llafur Cymru, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (gohirio)

  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu (gohirio nes Mai 2021)

Gwyliau

  • Gohirio Eisteddfod yr Urdd tan 2021, a gohirio'r gweithgareddau codi arian

  • Gŵyl Siarad Cyhoeddus Ffermwyr Ifanc Cymru, (22 Mawrth) - gohirio

  • Gŵyl Talacharn (27-29 Mawrth) - gohirio nes fis Hydref

  • Gŵyl Llanw (13-17 Ebrill) - canslo

  • Gŵyl Gomedi Machynlleth (1-3 Mai) - canslo

  • Gŵyl FOCUS Wales, Wrecsam (7-10 Mai) - gohirio tan 7-10 Hydref

  • Gŵyl Fwyd Caernarfon (9 Mai) - canslo

  • Eisteddfod Môn Bro Esceifiog 2020 (16 Mai) - gohirio

  • Tafwyl 2020 (19-21 Mehefin) - canslo

Canolfannau a safleoedd sydd ar gau am gyfnod amhenodol

  • Holl safleoedd Amgueddfa Cymru

  • Holl safleoedd CADW

  • Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

  • Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

  • Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

  • Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Digwyddiadau celfyddydol

  • Pontio ym Mangor yn ymatal ei rhaglen gelfyddydol dros dro, ond bwyty Cegin ac Undeb y Myfyrwyr i barhau ar agor am y tro rhwng 09:00 a 17:00, ddydd Llun i ddydd Gwener

  • Dim ffilmiau na sioeau yn Venue Cymru, Llandudno a Theatr Colwyn, Bae Colwyn am gyfnod amhenodol

  • Canslo taith Tylwyth,, dolen allanol Theatr Genedlaethol Cymru

  • Gig Catsgam, tafarn Y Pentref Llangrannog (20 Mawrth) - canslo

  • Taith Georgia Ruth, amryw leoliadau (20 Mawrth i 4 Ebrill) - gohirio

  • Cyngerdd Philomusica, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (21 Mawrth) - gohirio

  • Gig Bwncath a Tant yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon (27 Mawrth) - gohirio, dolen allanol

  • Cyngerdd taith Al Lewis, Te Yn Y Grug, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug (28 Mawrth) - gohirio

  • Cyngerdd Rhys Meirion, Capel Moreia Llangefni (4 Ebrill) - gohirio

  • Cyngerdd Corws a Symffoni Prifysgol Bangor, Neuadd Pritchard-Jones (5 Ebrill) - gohirio

  • Gŵyl Focus Wales, Wrecsam (7-9 Mai) - gohirio nes 7-10 Hydref

Digwyddiadau amaethyddol

  • Digwyddiad Glaswelltir Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (7 Mai) - canslo 

  • Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad (16th-17 Mai) - canslo

  • Sioe Amaethyddol Aberystwyth a Cheredigion (13 Mehefin) - canslo

Digwyddiadau eraill

  • Pencampwriaeth Snwcer y 'Tour' yn Venue Cymru, Llandudno (gohirio o 17-24 Mawrth tan 21-26 Gorffennaf)

  • Cynhadledd Iechyd Coleg Cymraeg (21 Mawrth) - gohirio

  • Darlith Flynyddol Pantyfedwen, Canolfan y Morlan Aberystwyth (23 Mawrth) - canslo

  • Nosweithiau Noson Lawen yng Nghanolfan Hamdden Llanfair Caereinion (4-7 Ebrill) - gohirio tan fis Awst

  • Sioe'r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol (RHS) yng Nghaerdydd (17-19 Ebrill) - canslo

  • Gorymdaith Pawb Dan Un Faner Cymru yn Wrecsam (18 Ebrill) - gohirio

  • Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch, Aberystwyth (24-25 Ebrill) - canslo

  • Arholiadau Aelodaeth Testun Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (25 Ebrill) - canslo

  • Teithiau Cymdeithas Edward Llwyd - canslo tan ddiwedd Ebrill

  • Digwyddiad Prom a Mwy ar bromenâd Bae Colwyn (11 Mai) - gohirio

  • Seremonïau graddio'r haf, Prifysgol Caerdydd - gohirio

Oes unrhyw ddigwyddiadau yng Nghymru sydd wedi'u gohirio neu ganslo oherwydd coronafeirws yr hoffech chi roi gwybod i ni amdanynt? Ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk