Mwy o achosion coronafeirws wrth i'r cyngor meddygol newid

  • Cyhoeddwyd
gwisgo masgFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud na ddylai pobl ffonio gwasanaeth 111 fel y cam cyntaf bellach os ydyn nhw'n amau fod ganddyn nhw coronafeirws.

Yn hytrach maen nhw'n dweud y dylai pobl aros adref am saith diwrnod, a dim ond cysylltu â'r gwasanaeth iechyd os nad ydyn nhw wedi gwella o fewn yr amser hwnnw neu fod eu cyflwr yn gwaethygu.

Daw hynny wrth i nifer yr achosion sydd wedi'u cadarnhau yng Nghymru gynyddu i 94, gyda 34 achos newydd yn cael eu cadarnhau ddydd Sul.

Maen nhw'n cynnwys y rhai cyntaf yng Ngheredigion, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

'Aros adref'

Mewn datganiad dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y "cyngor i'r cyhoedd bellach wedi newid".

"Dydy pobl ddim angen cysylltu gyda'r gwasanaeth 111 bellach os ydyn nhw'n meddwl bod ganddyn nhw coronafeirws (Covid-19)," meddai.

"Yn hytrach dylai unrhyw un sydd â thymheredd uchel neu beswch cyson aros adref am saith diwrnod.

"Ddylen nhw ddim mynd i weld eu meddyg teulu, fferyllfa neu ysbyty.

"Dylen nhw ond gysylltu gydag 111 os ydyn nhw'n teimlo nad ydyn nhw'n gallu ymdopi gyda'u symptomau ar eu pen eu hunain, os yw eu cyflwr yn gwaethygu neu os nad ydy'r symptomau'n gwella ar ôl saith diwrnod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i bobl beidio ffonio 111 yn syth bellach os oes ganddyn nhw symptomau

Ddydd Sul fe ddywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething ei bod hi'n bosib iawn y bydd yn rhaid i bobl dros 70 oed hunan ynysu am hyd at bedwar mis oherwydd yr haint.

Ychwanegodd ei fod yn credu "ein bod ni 10 i 14 wythnos i ffwrdd o'r uchafbwynt", ac y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau "amhoblogaidd" dros yr wythnosau nesaf.

Er nad oedd disgwyl i ysgolion Cymru gau yn syth, meddai, dywedodd Mr Gething y gallai hynny ddigwydd maes o law gyda disgyblion i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth am hyd at 16 wythnos.

Dywedodd Cyngor Sir Merthyr Tudful y byddai Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ar gau ddydd Llun am ddiwrnod, a hynny er mwyn i'r safle gael ei lanhau "oherwydd bod aelod staff wedi derbyn triniaeth feddygol am coronafeirws dros y penwythnos".

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi penderfynu canslo llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw, wrth i'r gwasanaeth iechyd baratoi am gyfnod heriol.

Yn ogystal â hynny mae nifer o ddigwyddiadau, gwyliau a gemau chwaraeon yng Nghymru hefyd wedi cael eu canslo neu ohirio bellach, er nad oes gwaharddiad swyddogol wedi cael ei gyhoeddi eto.

Profion ysbyty yn unig

Mae'r 34 achos newydd yng Nghymru yn cynnwys y cleifion cyntaf o Geredigion, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg, yn ogystal â rhagor o Flaenau Gwent, Caerffili, Sir Gâr, Abertawe, Caerdydd, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Dim ond tair sir sydd sydd heb gadarnhau unrhyw achosion eto - Gwynedd, Sir Ddinbych a Merthyr Tudful.

Ond dywedodd Dr Shankar mai dim ond canolbwyntio ar brofi cleifion yn yr ysbyty fyddai'r awdurdodau bellach, gan olygu y gallai nifer yr achosion mewn gwirionedd fod yn uwch.

"Rydyn nhw wedi symud i'r cyfnod o 'oedi', fydd yn golygu gweithio'n agos gyda'r byrddau iechyd, GIG 111 a Llywodraeth Cymru ar symud i ffwrdd o brofion yn y gymuned a chanfod pobl sydd wedi dod i gysylltiad," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gallai ysgolion orfod cau am gyfnod yn y pen draw er mwyn atal ymlediad yr haint

"Bydd profion nawr yn canolbwyntio ar achosion sydd yn dod i'r ysbyty, yn unol â chanllawiau cenedlaethol, ac yn seiliedig ar symptomau a difrifoldeb.

"Bydd symud i ffwrdd o brofion yn y gymuned yn golygu bod modd i ni gynnal mwy o brofion o fewn ysbytai, ble mae'r cleifion mwyaf bregus yn cael gofal."

Dadansoddiad gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke:

"Bydd nifer yr achosion sydd wedi'u cadarnhau'n swyddogol o hyn ymlaen yn llawer is na'r gwir nifer o achosion yn ein cymunedau.

"Yn y cyfnod 'oedi' yma, mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar brofi'r bobl sydd ddigon sâl i fod angen triniaeth ysbyty, yn hytrach nag unigolion gartref.

"Mae hynny oherwydd eu bod yn cymryd bellach bod pobl sydd â symptomau fel annwyd neu'r ffliw fwy na thebyg wedi dal coronafeirws.

"Felly dylech chi hunan ynysu fel y cam cyntaf - does dim angen prawf positif i gyfiawnhau hynny.

"Mae'n debygol felly y bydd nifer yr achosion sy'n cadarnhau yn ddyddiol ond yn adrodd darn bychan o'r darlun."

Achosion yng Nghymru*:

  • Abertawe (18)

  • Castell-nedd Port Talbot (11)

  • Caerffili (11)

  • Caerdydd (8)

  • Sir Gâr (7)

  • Powys (5)

  • Sir Fynwy (5)

  • Casnewydd (5)

  • Blaenau Gwent (3)

  • Sir Benfro (2)

  • Rhondda Cynon Taf (2)

  • Torfaen (2)

  • Bro Morgannwg (1)

  • Conwy (1)

  • Sir y Fflint (1)

  • Pen-y-bont ar Ogwr (1)

  • Wrecsam (1)

  • Ynys Môn (1)

  • Ceredigion (1)

*Ddim yn cynnwys wyth person ble mae eu lleoliad eto i'w gadarnhau