Gohirio holl gemau rygbi yng Nghymru am bythefnos

  • Cyhoeddwyd
bachgen a phel rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd gemau ar bob lefel yng Nghymru yn cael eu gohirio am o leiaf pythefnos oherwydd coronafeirws.

Dywedodd URC mewn datganiad eu bod wedi "ystyried cyngor meddygol arbenigol" cyn dod i'r penderfyniad.

Daw hynny ddiwrnod wedi i'r gêm rhwng Cymru a'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei gohirio am resymau tebyg.

Bellach mae 60 achos o'r haint wedi eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dilyn patrwm

Mewn datganiad dywedodd URC y byddai'r penderfyniad yn dod i rym o 18:00 ddydd Sadwrn, ac yn para nes o leiaf 30 Mawrth.

Fe fydd y gwaharddiad yn cynnwys gweithgareddau rygbi ar bob lefel, gan gynnwys sesiynau ymarfer a chyrsiau.

"Mae URC wedi cymryd y penderfyniad yma gyda lles chwaraewyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr, dyfarnwyr, hapddalwyr a chymunedau Cymru yn gyffredinol mewn golwg," meddai'r datganiad.

Daw penderfyniad Undeb Rygbi Cymru ddiwrnod wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyhoeddi gohiriad tebyg ar gemau domestig nes dechrau mis Ebrill.

Mae cynghrair rygbi'r Pro14 eisoes wedi ei gohirio, tra bod nifer o ddigwyddiadau eraill ar draws Cymru bellach wedi dilyn yr un trywydd.