Cronfa newydd i helpu artistiaid a hunanliwtwyr

  • Cyhoeddwyd
Gig Calan yn Wisconsin cyn i'r daith yn America gael ei chansloFfynhonnell y llun, Bethan Rhiannon
Disgrifiad o’r llun,

Gig Calan yn Wisconsin

Mae'r Wales Arts Review wedi dechrau cronfa newydd i helpu artistiaid a gweithwyr ym maes y byd adloniant sydd wedi colli incwm oherwydd y coronafeirws.

Mae Clwb Ifor Bach wedi ychwanegu i'r rhestr o lefydd sy'n cau am y tro oherwydd y sefyllfa, gan ddilyn cyhoeddiad tebyg gan Ganolfan y Mileniwm ddoe.

Yn ogystal mae Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, Pontio ym Mangor a nifer o theatrau eraill wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n cynnal digwyddiadau celfyddydol sydd ar y calendr oherwydd cyngor ynglŷn â'r feirws.

Mae'r sefydliad yn galw ar bobl i gyfrannu i'r gronfa er mwyn gallu rhoi cymorth brys i bobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd dros yr wythnosau nesaf wedi i berfformiadau neu brosiectau gael eu canslo neu ohirio oherwydd Covid-19.

Taith Calan yn America wedi canslo

Un o'r nifer sydd wedi cael eu heffeithio yw'r grŵp gwerin Calan, sydd wedi gorfod dod a'u taith o amgylch America i ben yn gynnar oherwydd y coronafeirws.

Ar ôl hedfan nôl i Lundain ar yr hediad olaf allan o Minneapolis cyn i America gau ei ffiniau, mae'r band wedi creu cronfa crowdfunding i'w hunain ar y we i geisio adennill peth o'u costau.

Yn ôl Bethan Rhiannon o'r band, roedd hi'n brofiad ofnus i geisio dod 'nôl i Gymru mewn pryd.

Hediad llawn pryder

"Odd dyn gyda gas mask mlaen ar yr awyren. Nath y boi ddim bwyta dim byd, dim yfed dim byd drwy gydol y flight," meddai Bethan Rhiannon, "Roedd pecyn mawr o disinfection wipes 'da fe ac roedd e'n rhoi nhw mas i bawb. O'n i'n meddwl, ydi'r boi 'ma'n nyts, neu yfe dyma sut dylen ni gyd fod?

"Tan i ni touch down yn Heathrow, ro'n i'n ofni na fydden ni'n cyrraedd."

Ffynhonnell y llun, Bethan Rhiannon
Disgrifiad o’r llun,

Teithiwr mewn offer gwrth-haint ar hediad o Minneapolis

Mae Bethan yn dweud bod y daith wedi dechrau'n dda yng Ngŵyl Wyddelig Texas. Roedden nhw wedi perfformio yn Kansas, Illinois a Wisconsin ac wedi gwerthu eu holl cd's wedi'r gigs.

Ond yna cafodd gweddill y daith ei chanslo oherwydd rheolau newydd yn gwahardd pobl rhag ymgasglu yn America.

'Ein cyflog ni yw hwn'

"Odd pawb yn trio aros yn cool, calm and collected. Ein cyflog ni yw hwn, o'n ni ddim yn gwybod sut i fynd ymlaen heb y cyflog felly o'n ni ddim moyn canslo'r gigs."

Ond canslo oedd rhaid, a nawr mae'r band wedi llwyddo codi bron digon o arian i ad-dalu eu costau wedi'r daith.

Ffynhonnell y llun, Bethan Rhiannon
Disgrifiad o’r llun,

Calan yn teithio yn America cyn i'r gigs gael eu canslo

"Mae'n costi dwy fil am flight, dwy fil am y bagiau - achos er mai dim ond rhyw bedwar pump ohonon ni sydd yn y band, mae deg neu unarddeg o fagiau a rheiny yn costi ffortiwn - a fisas a phetrol a phopeth arall," medd Bethan Rhiannon.

Colli cyflog hanner blwyddyn

"Ni wedi clywed bod ein taith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi canslo, felly mae'n cyflog ni am y flwyddyn wedi haneru.

"Mae ffans Calan wedi bod yn grêt yn ein cefnogi ni, ond sut ni'n mynd i fynd mlaen nawr tan fis Mehefin... Dy'n ni ddim yn siŵr."

Yn ôl y Wales Arts Review, gall artistiaid fel Calan wneud cais am un o ddeg cronfa o £300 fydd yn cael eu rhoi i hunan-liwtwyr sydd heb incwm wedi i brosiectau gael eu canslo dros Gymru gyfan. Bydd gweithwyr ym maes celf, llenyddiaeth, ffilm, theatr, teledu neu gerddoriaeth yn gallu ymgeisio, gyda'r arian yn cael ei ddosrannu ar egwyddor y cyntaf i'r felin. Os daw mwy o arian na'r targed, y bwriad yw cynnig rhagor o fwrsari.

Mae taith 'Tylwyth' wedi cael ei chanslo ar ôl agor yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, a'r artist Bryn Fôn wedi dweud y bydd e'n hunan ynysu am y tro wedi i aelod o'i deulu ddangos symptomau o'r coronafeirws.

Pryder am arian

Dywedodd Bryn Fôn wrth BBC Cymru :"Mae rhywun yn pryderu fwyaf wrth gwrs am iechyd pobl, yn poeni am y teulu - y rhai hŷn yn y teulu, a'r rhai fwyaf bregus - a gobeithio na chawn ni ddim ein heffeithio yn ormodol, ac wrth gwrs yn cydymdeimlo â'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio.

"Ond o ran yr ochr economaidd, ariannol, fy mhoen mwya i wrth gwrs yw fy mod i yn hunan gyflogedig ac ar hyn o bryd does yna ddim arian yn dod i mewn i dalu'r biliau.

"Mae'r llywodraeth yn ganolog ac ym Mae Caerdydd i'w gweld yn cynnig rhyw becynnau i helpu busnesau bach a mawr, ond dim byd ar gyfer yr hunan gyflogedig.

"Mae llywodraeth Iwerddon yn cynnig 203 Ewro yr wythnos i bawb, pob un, os ydych chi yn gyflogedig, yn hunan gyflogedig neu allan o waith. Dwi'n meddwl dylia fod 'na rhyw gynllun tebyg yn cael ei rhoid ar waith yma.

"Mae gwledydd Sgandinafia eisoes yn gwneud pethau tebyg ond hyd y gwela i does na ddim cynllun ar hyn o bryd i helpu bobl hunan gyflogedig. A does dim llawer o ots genna i o le mae'n dod, o Gaerdydd neu o Lundain."