Rhannwch eich lluniau i ddathlu Sul y Mamau
- Cyhoeddwyd
Fel arfer mae'n gyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd - ond mae'n argoeli i fod yn Sul y Mamau go wahanol eleni. Ac o ganlyniad i coronafeirws a'r cyngor i osgoi cyswllt diangen, efallai mai o bell bydd yn rhaid i nifer fawr ohonom ni ddathlu'r achlysur y flwyddyn yma.
Mae'n debyg mai dros y we yw'r dull mwyaf effeithiol o gadw mewn cysylltiad gyda'n tylwyth ar hyn o bryd. Felly os oeddech chi wedi bwriadu treulio amser gyda'ch mam ddydd Sul yma (22 Mawrth) ond yn methu, beth am anfon eich hoff lun ohonoch chi gyda hi at Cymru Fyw?
'Newn ni gyhoeddi cymaint o luniau ag y medrwn ni mewn oriel arbennig fydd yn talu teyrnged i famau ledled Cymru - ac yn rhoi cwtsh bach torfol i bawb ar yr un pryd.
Mae'r newyddiadurwr Sara Gibson wedi dechrau'r ymgyrch drwy rannu llun ohoni hi a'i mam, Marian Evans - y naill yn bwriadu treulio'r wythnosau nesaf yn ardal Aberystwyth a'r llall yn Nghaerdydd.
Anfonwch eich hoff lun ohonoch chi gyda'ch mam (neu eich mam-gu neu nain) at cymrufyw@bbc.co.uk erbyn 12pm dydd Gwener 20 Mawrth. Cofiwch nodi enwau pawb sydd yn y llun a neges byr.