Dau gyngor sir i droi cefn ar gonsortiwm addysg
- Cyhoeddwyd

Mae bwrdd gweithredol cyngor Sir Gâr am adael consortiwm ERW y flwyddyn nesaf
Mae dau gyngor sir arall bellach wedi cadarnhau eu bod am adael consortiwm addysg ERW, y corff sy'n ceisio gwella safonau addysg yn y canolbarth a'r gorllewin.
Dywedodd Ceredigion a Sir Gâr mai'r bwriad yw gadael y consortiwm ar 31 Mawrth 2021.
ERW sydd yn gyfrifol am roi cymorth arbenigol i ysgolion er mwyn codi safonau.
Ar hyn o bryd maen nhw'n gwasanaethu chwech o awdurdodau lleol, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe.
Ddydd Llun penderfynodd bwrdd gweithredol Sir Gâr i dderbyn argymhelliad i sefydlu "gwasanaeth gwella ysgolion yn y dyfodol sy'n seiliedig ar ôl traed daearyddol Rhanbarth Bae Abertawe".
Bydd hynny yn cwmpasu pedwar cyngor, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Dinas Abertawe.
'Gwahanol flaenoriaethau'
Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi penderfynu tynnu nôl o ERW.
Ym mis Mawrth 2019, dywedodd y cyngor bod ysgolion wedi lleisio pryderon am "ansawdd" y gefnogaeth gan ERW.
Yn ôl y cynghorydd Cartin Miles, aelod o gabinet Ceredigion a chyfrifoldeb am addysg, un o'u beirniadaethau oedd bod diffyg darpariaeth yn y Gymraeg.
"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol o ran datblygu dull cydweithredol ymhellach ar draws pob un o'r chwe awdurdod, gan gynnwys gwahanol safbwyntiau a blaenoriaethau, diffyg adnoddau a chyllid i feysydd blaenoriaeth yng Ngheredigion, a diffyg cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg oherwydd nad oedd elfennau o ddarpariaeth ERW ar gael yn Gymraeg.
"Mae Ceredigion yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r egwyddor o weithio mewn amrywiol fathau o bartneriaethau gydag eraill er budd ein disgyblion."

Yn Sir Gâr mae'n ymddangos fod y bwrdd gweithredol wedi pasio gwelliant oedd yn dilyn ôl traed patrwm rhanbarth Bae Abertawe gyda'r corff newydd, ond hefyd yn ystyried "bob opsiwn posib" a chadw'r drws yn agored i ystyried partneriaethau posib eraill.
Fe gynigiwyd y gwelliant gan Glynog Davies, sef aelod y bwrdd gweithredol sydd yn gyfrifol am addysg.
Mewn datganiad dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole: "Er bod ERW wedi cyflawni llawer o bethau cadarnhaol dros y blynyddoedd, mae ei ôl troed daearyddol presennol yn fawr ac wedi ychwanegu at yr heriau a achoswyd gan newidiadau yn arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol ERW.
"Mae model Dinas-ranbarth Bae Abertawe eisoes yn ei le ar gyfer cynllunio a chyflwyno Bargen Ddinesig Bae Abertawe, felly byddwn yn mynd ati i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol partner ar archwilio'r potensial i ERW efelychu'r ôl-troed hwn."
Safbwynt ERW
Mewn datganiad ar wefan y consortiwm, mae prif weithredwr arweiniol ERW, Phil Roberts, wedi dweud ei fod yn "hyderus y bydd y newid hwn yn gyfle i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn well".
"Er gwaethaf nifer o lwyddiannau wrth fynd i'r afael â chefnogi arweinyddiaeth, darpariaeth a safonau mewn ysgolion, barn mwyafrif y chwe chyngor partner yw y dylid nawr diwygio strwythur presennol ERW," ychwanegodd.
"Rydym wedi cydweithio hyd eithaf ein gallu, ond mae angen dull gwahanol le gallwn alinio ein gwaith gwella ysgolion ac addysg yn well â chyfleoedd economaidd a dyheadau ein dinasyddion ifanc.
"Bydd pob un o'r chwe chyngor yn parhau i drafod y ffordd orau o ddarparu gwelliant ysgolion yn y dyfodol, gan gynnwys opsiynau ar gyfer modelau cydweithredu rhanbarthol gwahanol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018