Ateb y Galw: Yr actores Ceri Elen

  • Cyhoeddwyd
Ceri ElenFfynhonnell y llun, Ceri Elen

Yr actores ac awdur Ceri Elen sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Al Lewis yr wythnos diwethaf.

Mae Ceri yn adnabyddus i ffans Rownd a Rownd ar S4C, gan ei bod hi'n actio Fflur, sydd yn mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd, ar ôl cael diagnosis o ganser.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae troi y soffa i mewn i gar hefo mrawd a defnyddio plât plastig glas i 'ddreifio' yn atgof cynnar iawn.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Alastair Mackenzie oddi ar Monarch of the Glen.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gyfres Monarch of the Glen yn dilyn hanes Archie wrth iddo adfer plasdy enfawr yn yr Alban

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na lot o rhain. Mae trio helpu i glirio paent pinc yn y dosbarth derbyn amser cinio (pan o'n i ym mlwyddyn 6), a defnyddio gormod o bapur tishw a chlogio'r toilet, a gweld dŵr pinc yn llifo at y dosbarth yn un o'r rhai cyntaf.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos dwytha'.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Lot. Gadel croen bananas yn y car lot rhy hir yn un.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae gen i dri. Parc Llanelian (wrth lle ges i fy magu) i edrych ar y môr, fy nghartref yn Canton, Caerdydd, a Llangynog yn y canolbarth (lle gafodd Mam ei magu) yn y mynyddoedd.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson ar ôl i fy nai bach gael ei eni. Roedd y byd wedi newid.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Work. In. Progress.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Unrhywbeth gan Haruki Murakami. Dwi wrth fy modd efo'r ffordd mae o'n cymysgu realaeth a ffantasi.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mi fyswn i wir yn hoffi cyfarfod David Attenborough. Mae o'n arwr i mi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Attenborough wedi bod yn darlledu rhaglenni bywyd gwyllt ers 60 o flynyddoedd, ac yn arwr i nifer

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Enw fy nghar ydi Brian.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti mawr mewn cae yn edrych dros y môr efo fy nheulu a ffrindiau. Mi fyddai pawb yn gallu cael yn union be' mae nhw ei eisiau i'w fwyta. Ac mi fyddai yna ddigon o gerddoriaeth drwy'r nos.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ar hyn o bryd, unrhywbeth gan Bonobo (Simon Green). A dwi wrth fy modd efo Lang Lang yn chwarae Widmung.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cregyn gleision. Cyri llysieuol, reis a saag paneer. Affogato gydag amaretto.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Sarah Vaughan, y gantores jazz.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dylan sioc mawr pan ddaeth Fflur yn ôl i'w fywyd a chyflwyno ei fab, Llew, iddo

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Martin Thomas

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw