Ateb y Galw: Y canwr Al Lewis
- Cyhoeddwyd
Y canwr Al Lewis sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Dr Katie Hemer yr wythnos diwethaf.
Ar hyn o bryd, mae Al yn teithio ledled Cymru yn perfformio ei albwm Te yn y Grug, sydd yn ganeuon y cyfansoddodd ar gyfer sioe Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cael fy ngwthio mewn pram ar hyd promenâd traeth Pwllheli.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Buffy the Vampire Slayer aka Sarah Michelle Gellar.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Anghofio leins yn sioe gerdd yr ysgol!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Penwythnos d'wethaf ym mhriodas fy nghyfnither.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Diffyg amynedd!
O archif Ateb y Galw:
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Pen Llŷn - lle geshi' fy magu ac ar ddiwrnod braf does 'na nunlle gwell.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson fy mhriodas - parti mawr efo teulu a ffrindiau, be' gwell?
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymro, canwr, tad.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
The Godfather I a II - lle fedrai gychwyn…? Epic!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Dad - i mi cal llenwi fo fewn efo pob dim sydd 'di digwydd ers iddo fynd.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Enw llawn fi 'di Alwyn - nid Aled nag Alun neu Alan...!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwahodd teulu a ffrindiau draw am wledd a cha'l diawl o barti.
Beth yw dy hoff gân a pham?
God Only Knows gan y Beach Boys - ma'r geiriau'n d'eud pob dim a'r alaw yn hyfryd.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Salad Groegaidd ffres, cyri, wedyn panna cotta efo mafon.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Donald Trump. Pwy a ŵyr be' 'sa'n digwydd!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Ceri Elen