Cau ysgol yn syth wedi i aelod o staff gael coronafeirws
- Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd yn Sir Gaerfyrddin wedi cau yn syth wedi cadarnhau fod aelod o staff wedi cael coronafeirws.
Mewn neges at rieni a gofalwyr, dywedodd pennaeth Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf nad oes disgwyl unrhyw weithgaredd addysg yno am o leiaf bedair wythnos.
Roedd yr ysgol i fod i gau beth bynnag wedi'r gwersi olaf ddydd Gwener yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Mercher fod gwyliau Pasg pob ysgol yng Nghymru yn dechrau'n gynnar
"Rwy'n gwerthfawrogi fod y penderfyniad yma yn ddirybudd a bydd yn achosi trafferthion i lawer o deuluoedd," meddai'r pennaeth Julian Kennedy yn y neges.
'Cam mwyaf diogel'
"Fodd bynnag, dyma yn amlwg yw'r cam mwyaf diogel, a'r cam mwyaf synhwyrol o'r herwydd."
Mae'n annog disgyblion, rhieni a gofalwyr i gadw golwg ar wefan yr ysgol am y camau diweddaraf.
Daeth cadarnhad hefyd ddydd Mercher na fydd arholiadau TGAU na Safon Uwch yn cael eu cynnal yn yr haf wrth i ymdrechion yr awdurdodau barhau i atal lledaeniad coronafeirws.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wrth BBC Cymru fore Iau fod yna bosibilrwydd na fydd ysgolion yn ailagor tan fis Medi.
"Rydw i eisiau i ysgolion fynd yn ôl i'r drefn arferol gynted â phosib," meddai, "ond dydw i ddim mewn sefyllfa i ddweud wrth bobl pa bryd fydd hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020