Pwerau 'llym' mewn ymateb i achosion Covid-19
- Cyhoeddwyd
![Mark Drakeford](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16368/production/_111348909_drakeford5sept19presser.jpg)
Dywed Mark Drakeford fod angen mesurau llym "digynsail mewn cyfnod o heddwch" wrth i'r sefyllfa newid yn gyson
Bydd deddfwriaeth frys newydd yn rhoi pwerau "llym" i Lywodraeth Cymru ynysu a chadw unigolion er mwyn atal lledaenu coronafeirws, yn ôl y Prif Weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford fod disgwyl i'r ddeddf, sy'n cael ei chyflwyno i Senedd San Steffan ddydd Iau, ddod i rym cyn diwedd Mawrth, ond pwysleisiodd fod "dim cynlluniau ar fin digwydd" i gau popeth yng Nghymru.
Mae'n cynnwys rhoi hawl i weinidogion gludo neu gadw pobl dan gwarantîn, neu orchymyn person i fynd i le penodol.
Bydd y pwerau newydd, sy'n ganlyniad cydweithio gan holl weinyddiaethau'r DU, yn caniatáu gweinidogion Cymru i atal neu gyfyngu ar ymgynulliadau torfol, ac i gau safleoedd.
'Anawsterau digynsail'
"Mae'r mesur yn ymateb i'r anawsterau digynsail sy'n ein hwynebu," meddai Mr Drakeford, "ac yn seiliedig ar angen i leihau'r cynnydd yn [nifer achosion] coronafeirws ar y naill law, ac i ryddhau gwasanaethau cyhoeddus... fel y gallen nhw wneud mwy ar y rheng flaen".
"Mae'r rhain yn bwerau i'w defnyddio os rydyn yn cyrraedd pwynt ble mae'r fath ymyraethau llym ym mywydau unigolion yn angenrheidiol."
Ychwanegodd bod y mesurau ar raddfa "na welwn fel arfer mewn cyfnod o heddwch".
Mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yn mynd trwy San Steffan er bod elfennau'n ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli.
![Plismyn ym Mharis](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/167C9/production/_111350129_mediaitem111350128.jpg)
Dywed Mr Drakeford fod dim camau ar fin digwydd i cau popeth, fel sydd wedi digwydd yn rhannau o Ewrop
Dywedodd Mr Drakeford wrth gynhadledd newyddion mai byrdwn mwyafrif y ddeddfwriaeth yw rhyddhau adnoddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn "ymateb yn gyflymach, ac yn fwy hyblyg, i anghenion mwy brys".
Bydd gweinidogion â hawl i orchymyn ysgolion:
i gau neu barhau ar agor;
ail-leoli athrawon i lenwi bylchau;
diystyru'r gymhareb arferol rhwng niferoedd plant a staff; a
gadael i bobl ddychwelyd i'r gweithle'n gynt.
Bydd hawl i weinidogion nodi amgylchiadau ble mae mae modd diystyru'r broses wirio arferol yn achos gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Y nod, medd Mr Drakeford, yw osgoi gorfodi pobl i gael eu gwirio o'r newydd wrth symud o un gweithle i un arall.
"Dydy'r mesur ddim yn rhoi canllawiau diogelwch i'r neilltu, ond yn ein galluogi i'w defnyddio mewn ffordd fwy hyblyg a phenodol," meddai.
Y bwriad yw hwyluso'r broses o recriwtio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ateb galw cynyddol, a llenwi bylchau yn absenoldeb staff yn ystod y pandemig.
![Cludo arch yn Yr Eidal](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1713D/production/_111352549_16fbbfb3-3b4f-44f3-86f4-04ae92bcc617.jpg)
Mae'r Eidal wedi rhoi'r gorau i gynnal angladdau unigol
Bydd yna newidiadau dros dro i'r Ddeddf Iechyd Meddwl er mwyn lleihau'r nifer o bobl sy'n angenrheidiol i wneud penderfyniadau".
Fe allai oriau amlosgfeydd gael eu hymestyn i reoli nifer y marwolaethau sy'n cael eu darogan dan y senario gwaethaf.
Ychwanegodd Mr Drakeford fod "popeth yn symud yn gyflym iawn" a bod "gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adegau cywir" yn hanfodol i arafu lledaeniad y salwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020