Cyfyngiadau ar angladdau yn bosib yn sgil coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
angladd yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eidal eisoes wedi rhoi'r gorau i angladdau yn y wlad yn sgil y pandemig

Efallai na fydd angladdau unigol yn bosib pe bai nifer y marwolaethau o coronafeirws ar "senario gwaethaf", yn ôl gweinidog iechyd Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn "un o'r pethau anoddaf y gallai fod yn rhaid i ni ei wynebu".

Roedd yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Cynulliad ar bwerau brys sy'n cael eu cyflwyno gan y llywodraethau datganoledig a'r DU i daclo'r epidemig.

Pan ofynnodd yr AC Ceidwadol, Angela Burns, a fydd yn rhaid gosod terfynau "ar nifer yr angladdau a gwthio tuag at amlosgi gyda gwasanaethau coffa yn y misoedd i ddod", atebodd: "Mae'r holl bethau hynny'n bosibl."

Yn ddiweddarach ychwanegodd Mr Gething: "Os ydyn ni wir yn gweld lefelau marwolaeth sy'n golygu na all y broses arferol ymdopi, yna byddai'n rhaid i ni wneud newidiadau.

"Fe allai'r rhan gychwynnol ymwneud â chynyddu storio'r ymadawedig a phwerau i awdurdodau lleol gael lleoedd i storio cyrff."

Anghenion ariannol

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni ystyried beth mae hynny'n ei olygu o ran p'un ai yw'n gladdu neu'n waredu - ac a yw'n bosib efallai na fydd gwarediad sengl yn bosib ar ben uchaf y senario rhesymol gwaethaf.

"Ac os dyna'r gofyniad, oherwydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus y byddem yn ei wynebu bryd hynny, yna wrth gwrs mae angen i ni gyfarwyddo rhannau o'r system a'r cyllid ar gyfer hynny fel y byddwch chi'n gallu delio â her ymarferol nifer fawr o farwolaethau gormodol oherwydd anghenion ariannol rhai o'r bobl hynny."

Roedd yn ateb cwestiwn gan yr AC Llafur, Lynne Neagle ynghylch pobl a allai ei chael hi'n anodd talu am angladdau mewn amgylchiadau mor anodd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Mae'r paratoadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer y senarios gwaethaf yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i fflatio'r gromlin a chyfyngu'r achosion mae'n rhaid delio â nhw ar unrhyw un amser."

Bydd mesur sy'n rhoi manylion y pwerau brys yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn San Steffan ddydd Mercher.