Coronafeirws: 'Cadwch draw o'r copaon a'r llwybrau'

  • Cyhoeddwyd
Busy car parkFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Maes parcio Pen-y-Pass ddydd Sadwrn

Mae'n bosib y gallai meysydd parcio a rhai llwybrau poblogaidd gael eu cau er mwyn rhwystro pobl rhag ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ôl yr awdurdodau.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mai dydd Sadwrn yma oedd yr un prysuraf mewn cof o ran ymwelwyr.

Roedd "tyrfaoedd sylweddol ar gopaon mynyddoedd a llwybrau, gan ei gwneud hi'n amhosib cadw pellter yn effeithiol".

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hefyd wedi galw ar ymwelwyr i gadw draw.

Yn y de, roedd copa Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog hefyd yn hynod o brysur.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd yn ystyried y pwerau sydd ar gael er mwyn sicrhau bob pobl yn cadw draw o fannau poblogaidd.

Mae yna alwadau gan wleidyddion a meddygon lleol i bobl sy'n berchen ar dai haf neu garafanu i gadw draw o fannau gwyliau - gyda rhai pobl wedi teithio yna i hunan ynysu.

Cafwyd apêl tebyg o du gwleidyddion lleol yng Nghernyw ac ucheldiroedd yr Alban.

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Y ffordd yn arwain at westy Pen y Gwryd a Phen-y-Pass dydd Sadwrn

Dywedodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams: "Mae'r ardal wedi bod dan ei sang gydag ymwelwyr.

"Rydym yn galw ar Brif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru i ddarparu mesurau mwy cadarn ar deithio diangen ac ymbellhau cymdeithasol er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld y sefyllfaoedd hyn yn cael eu hailadrodd ledled Eryri.

"Mae angen arweiniad penodol ynghylch yr hyn yn union a olygir gyda "theithio angenrheidiol".

'Gwarchod gwasanaethau'

"Rydym hefyd yn galw ar yr holl ymwelwyr a pherchnogion tai gwyliau i ystyried cyngor y llywodraeth ac osgoi teithio nad yw'n hanfodol, ac i aros gartref er mwyn bod yn ddiogel.

"Os na chymerir camau pellach bydd rhaid i ni gymryd camau llym er mwyn gwarchod y cymunedau a'r gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru, fel cau meysydd parcio a llwybrau."

Ym Mhwllheli, Pen Llŷn, mae meddygfa leol wedi ysgrifennu at reolwyr parciau carafannau "i atgoffa eich cwsmeriaid ynglŷn ar angen i derfynu trafeilio sydd ddim yn angenrheidiol."

Dywed y llythyr fod "ein gwasanaethau iechyd eisoes dan bwysau aruthrol ac yn debygol o waethygu" ac yn methu ymdopi ag unrhyw "ofynion ychwanegol."

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd yn Y Bala yn galw ar ymwelwyr i gadw draw

Yn y gorllewin dywedodd Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod pryder am nifer yr ymwelwyr dros y penwythnos.

"Rydym yn galw ar Lywodraethau Cymru a Phrydain i ddarparu mesurau mwy cadarn ar deithio diangen ac ymbellhau cymdeithasol gydag arweiniad penodol ynghylch yr hyn yn union a olygir gyda 'theithio angenrheidiol'.

"Mae cyrchfannau ymwelwyr ledled y wlad, gan gynnwys Sir Benfro, wedi wynebu cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros y penwythnos.

"Mae pryder gwirioneddol y bydd ein gwasanaethau iechyd yn wynebu pwysau cynyddol ac ni fydd mesurau pellhau cymdeithasol yn cael sylw."

Disgrifiad o’r llun,

Yr olagfa wrth Storeny Arms ym Mannau Brycheiniog

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ysgrifennu llythyr at y prif weinidog Mark Drakefor yn galw am weithredu ar unwaith.

"Rwy'n gofyn i chi nawr gymryd camau ar frys er mwyn osgoi pwysau ychwanegol diangen ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn yr amser anodd hwn," meddai yn ei lythyr.

Ddydd Sadwrn galwodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ar dwristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o'r ynys "hyd nes bod yr argyfwng coronafeirws drosodd."

Yn ôl y cynghorydd Llinos Medi, dylai pobl ddim teithio i'r ynys "yn ystod amser mor gythryblus, does dim dewis heblaw annog ymwelwyr a thwristiaid, gan gynnwys y rhai sy'n berchen ar ail gartrefi, i gadw draw o'r Ynys - a hynny ar unwaith.

'Dim teithio diangen'

"Mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan, ac i beidio teithio oni bai ei fod yn hanfodol, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng cenedlaethol yma."

Dywedodd gweinidog iechyd Cymru Vaughan Gething fod yna ganllawiau clir i bobl beidio teithio yn ddiangen.

"Dyw mynd i'ch carafán ar y penwythnos ddim yn fy nharo i fel teithio angenrheidiol.

"Rydym yn gofyn i bobl fod yn gyfrifol.

"Rydym yn cymryd hyn o ddifri ac os oes angen gweithredu rydym yn barod i ddefnyddio ein pwerau...."

Cyhoeddodd Cyngor Sir Gâr y bydd parciau'r awdurdod ar gau i'r cyhoedd o 18:00 nos Sul.

Mae'n cynnwys Parc Gwledig Pen-bre, Llyn Llech Owain, Parc Coetir Mynydd Mawr a Pharc Howard.

Mae hefyd yn berthnasol i fannau caeedig ar draws Parc Arfordirol y Mileniwm.