Newid amserlenni bws a thrên oherwydd coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Bydd llai o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus trwy Gymru oherwydd haint coronafeirws.
Mae amserlenni newydd bellach wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwasanaethau bws a threnau.
Dywed cwmnïau trafnidiaeth bod y newidiadau yn dod i rym oherwydd llai o alw a llai o staff am fod pobl yn ymateb i'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf.
Ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn cael teithio am ddim o ddydd Llun tan ddiwedd mis Ebrill.
Dywedodd y gweinidog trafnidiaeth, Ken Skates ei bod hi'n parhau yn bwysig i weithredu rhai gwasanaethau ar gyfer gweithwyr allweddol ac ar gyfer y gadwyn gyflenwi.
Ychwanegodd Mr Skates: "Bwriad y cam yma yw ymateb i'r lleihad yn nifer y teithwyr wrth i bobl ddilyn y canllawiau i beidio cymdeithasu.
"O ganlyniad mae'n rhaid i ni ostwng y nifer o bobl sydd eu hangen i redeg gwasanaethau.
"Mae'r mesurau brys yma yn helpu sicrhau bod digon o staff ar gael i redeg gwasanaethau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf."
Fe ddaw hyn wrth i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson ddweud y dylai pobl osgoi teithio oni bai bod rhaid - a'r un yw neges Llywodraeth Cymru.
Yn ôl cwmnïau trafnidiaeth, mae cau ysgolion ddydd Gwener yn ogystal â mwy o bobl yn gweithio o adre yn golygu llawer llai o deithwyr.
Roedd First Cymru sydd yn rhedeg gwasanaethau bws ar draws de a gorllewin Cymru wedi rhybuddio y gallai cwsmeriaid wynebu trafferthion oherwydd bod nifer cynyddol o staff yn hunan-ynysu.
Yn ôl y cwmni fe fydd yna lai o wasanaethau yn Rhydaman, Pen-y-bont, Caerfyrddin, Hwlffordd, Llanelli, Maesteg, Port Talbot ac Abertawe.
Mae'r cwmni hefyd wedi annog pobl i beidio defnyddio arian parod i brynu tocynnau, pan yn bosib, er mwyn atal y feirws rhag lledu.
Mae Stagecoach hefyd wedi cyhoeddi amserlen gyfyngedig ond yn dweud eu bod yn ceisio cynnal gwasanaethau allweddol pan fo hynny yn bosibl.
Dywedodd Nigel Winter, y rheolwr gyfarwyddwr, bod y cwmni yn ceisio arbed swyddi a sicrhau dyfodol y diwydiant mewn sefyllfa "heriol".
Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn gwybod bod ein gwasanaethau bws yn allweddol i gadw'r wlad i redeg a sicrhau bod gweithwyr hanfodol yn gallu cyrraedd eu gwaith.
"Ein bwriad yw ffocysu adnoddau lle mae mwyaf o angen."
Yn y gogledd, mae Arriva yn cynnal gwasanaeth brys, i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu parhau i gael gwasanaethau hanfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020