Cau meysydd carafanau a chyrchfannau twristaidd

  • Cyhoeddwyd
maes carafanau yn PorthmadogFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd safleoedd gwersylla a chyrchfannau twristaidd poblogaidd ar gau o ddydd Llun ymlaen.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod angen cwtogi ar "siwrneiau diangen" er mwyn "lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd".

Daw hynny wedi i bobl heidio yn eu miloedd i rai o'r llwybrau cerdded mwyaf poblogaidd dros y penwythnos, er gwaethaf cyngor gan y llywodraeth i bobl ymbellhau'n gymdeithasol.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ystyried "cau mynyddoedd" a safleoedd poblogaidd eraill yn sgil y prysurdeb.

'Nid nawr yw'r amser i ddod'

Daw'r camau diweddaraf yn dilyn pryderon ynghylch nifer ymwelwyr sydd wedi dod i aros mewn gwersylloedd neu ail dai yng nghefn gwlad Cymru dros y dyddiau diwethaf er mwyn ceisio osgoi'r feirws.

Mae meddygon eisoes wedi annog pobl â thai haf i gadw draw rhag iddyn nhw roi gormod o bwysau ar wasanaethau iechyd lleol.

Bydd meysydd carafanio a gwersylla a chyrchfannau twristaidd a harddwch poblogaidd yng Nghymru bellach ar gau i ymwelwyr.

Ychwanegodd y llywodraeth bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod tafarndai hefyd yn aros ar gau, a bod unrhyw rai sydd yn torri'r rheolau yn rhedeg y risg o golli eu trwydded.

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd meysydd parcio yn Eryri yn orlawn dros y penwythnos wrth i bobl fynd i gerdded

"Mae Cymru'n wlad brydferth sy'n denu miliynau o bobl y flwyddyn, ond nid nawr yw'r amser am siwrneiau diangen," meddai Mr Drakeford.

"Rydyn ni eisiau i bobl ddod i Gymru pan mae bygythiad coronafeirws drosodd."

Ychwanegodd y byddai pobl ond yn cael aros yn eu gwersylloedd neu garafanau dan "amgylchiadau eithriadol", ac na fyddai'r cyhoeddiad yn effeithio pobl oedd yn byw yn barhaol yno.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei fod yn "croesawu" cyhoeddiad y llywodraeth, ond bod angen "mwy o weithredu ar y cwestiwn o lety twristiaeth arall ac ail gartrefi".

"Oni bai na all pobl ddychwelyd adref oherwydd bod rhywun yn hunan-ynysu yn eu prif gartref neu am reswm dyngarol arall, dylai'r holl deithio i ail gartrefi ddod i ben a dylai pobl sydd mewn ail gartrefi ddychwelyd adref," meddai.

'Tyrfaoedd dychrynllyd'

Cafodd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru hefyd ei groesawu gan brif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu prif feysydd parcio.

Mae camau tebyg wedi cael eu cymryd ym mharciau cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro, gyda phobl yn cael eu cynghori i "aros adref" a mynd am dro yn eu "hardal leol".

"Roedd y tyrfaoedd a welsom ar Yr Wyddfa ac mewn safleoedd penodol yn Eryri dros y penwythnos yn ddychrynllyd, a daeth yn amlwg nad oedd pobl yn derbyn cyngor y Llywodraeth i osgoi teithio yn ddiangen na chynnal pellter cymdeithasol diogel," meddai Emyr Williams.