Canllawiau 'cwbl ddryslyd' i'r hunangyflogedig
- Cyhoeddwyd
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar fudd-daliadau i'r hunangyflogedig yn sgil y pandemig coronafeirws yn "gwbl ddryslyd" yn ôl un Aelod Cynulliad.
Wrth siarad â BBC Cymru fe ddywedodd Helen Mary Jones fod gweithwyr yn cael eu bygwth â diswyddiadau gan eu rheolwyr os nad ydyn nhw'n mynd i'r gwaith.
Yn gynharach yr wythnos hon fe gyflwynodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson fesurau llymach i atal pobl rhag cwrdd mewn grwpiau a chyfyngiadau teithio a gweithio.
Yn ôl y Trysorlys maen nhw'n gweithio yn "galed" ac yn "greadigol" er mwyn helpu'r hunangyflogedig.
Mae'r sector adeiladu wedi dod dan y lach gyda rhai cwmnïau fel Persimmon yn penderfynu atal holl waith adeiladu, ond eraill fel Redrow yn parhau wrthi.
'Beth mae'n olygu?'
Mae'r Llywodraeth wedi caniatáu i safleoedd adeiladu aros yn agored cyn belled fod gweithwyr yn dilyn y canllawiau diweddara fel cadw pellter o 2 fetr.
Ond yn ôl Ms Jones tydi'r term "gweithwyr hanfodol" ddim digon eglur.
"Beth ydy hynny'n golygu? Ydy hynny'n golygu bod yn hanfodol os ydych am golli eich job os nad ydych yn troi lan?" meddai.
"Dyna mae pobl yn d'eud wrtha i. 'Da ni'n gwybod fod y sector yna yn gallu bod yn fregus. Dyw hi ddim digon clir."
Mae'r drefn budd-daliadau hefyd yn ddryslyd ac mae angen gwneud mwy, yn ôl Ms Jones.
Mae John Ieuan Jones yn ganwr opera o Landrillo-yn-rhos a bellach wedi colli ei waith i gyd ar gyfer y misoedd nesaf.
"I ddeud gwir mae 'di bod mor gyflym â mor allan o 'nunlle," meddai.
"Pythefnos yn ôl o'n i'n canu mewn cynhyrchiad o Don Giovanni a'r munud nesa oedd hwn a llall 'di canslo, cyngherddau a contacts yn dod fyny, trip i Ganada. Aeth pob dim mewn mater o ddyddiau."
Hefyd yn gweithio yn y celfyddydau mae Gruffudd Glyn ac yn gweld y cyngor gan y Llywodraeth yn ddryslyd.
"Dwi'n gweld hi'n anodd d'eud y gwahaniaeth rhwng self-employed a freelance gan fod hi'n anodd imi egluro faint dwi'n ennill bob mis gan fod o'n newid ymhob swydd."
Ddydd Mercher fe gafodd llythyr ei anfon at y canghellor wedi ei arwyddo gan rai o brif ddarlledwyr Prydain - gan gynnwys y BBC ac S4C - yn galw ar San Steffan i drefnu pecyn ariannol ar gyfer gweithwyr llawrydd.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys eu bod nhw wrthi'n ceisio meddwl yn "galed" ac yn "greadigol" i sicrhau fod y rheini sydd angen y cymorth yn ei gael, ac mae disgwyl i'r Prif Weinidog gyhoeddi rhagor o gynlluniau yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020