Coronafeirws: Meddygon 'yn prynu eu hoffer eu hunain'
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon teulu mewn rhannau o Gymru yn gorfod prynu eu hoffer amddiffynnol personol (PPE) eu hunain, gyda rhai hyd yn oed yn gofyn i ysgolion eu gwneud ar eu cyfer gydag argraffwyr 3D.
Daw'r sylwadau gan feddyg teulu sy'n gweithio yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, un o'r ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf yn y DU.
Ychwanegodd nad oedd gan feddygon "unrhyw ddewis" ond gwisgo'r offer fwy nag unwaith a bod hynny yn "beryglus" ac yn "annerbyniol".
Dyw'r meddyg ddim am gael ei enwi ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael cais i wneud sylw.
"Mae pryder enfawr o hyd o fewn practis cyffredinol ynghylch cyflenwi offer PPE digonol," meddai'r meddyg teulu wrth BBC Cymru, gan ychwanegu bod y canllawiau cyfredol yn cael eu "gwrthod yn fyd-eang" gan feddygon teulu sy'n "chwilio am ein PPE eu hunain gyda'n arian ein hunain".
Ddydd Mercher, dywedodd Sarah Aitken, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd, y gallai'r ardal fod yn "dilyn yr Eidal" ac yn wynebu cael ei "llethu" gan gynnydd cyflym mewn achosion coronafeirws.
Yn y cyfamser daeth cadarnhad ddydd Sul bod nifer y bobl sydd wedi marw o'r haint yng Nghymru wedi codi i 48.
Roedd yna 148 achos newydd ac mae'r cyfanswm o brofion positif bellach yn 1,241 ond mae'n debygol bod y nifer gwirioneddol lawer yn uwch.
Ddydd Mawrth dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod yna ddigon o offer i bawb yn y gwasanaeth iechyd.
Drannoeth, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wrth gynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru bod yr "amserlen ail-gyflenwi offer PPE yn ansicr".
Er hynny, roedd offer o'r storfa pandemig wedi cael ei ryddhau i ysbytai, meddygon teulu, gofal cymdeithasol a fferyllfeydd.
Dywedodd y meddyg o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ymhellach: "Yn gyffredinol, mae siopau DIY wedi rhedeg allan o fasgiau wyneb gan arwain at orfod cysylltu ag adeiladwyr lleol a chwmnïau adeiladu i gyflenwi masgiau.
"Mae meddygon teulu hefyd wedi gorfod dod o hyd i'w fisorau amddiffynnol eu hunain ac mae hyn wedi cynnwys cysylltu â chwmnïau lleol a hyd yn oed ysgolion i wneud y rhain trwy ddefnyddio argraffwyr 3D."
Pethau'n araf yn cyrraedd
Dywedodd Dr Phil White, sy'n Gadeirydd pwyllgor meddygon teulu y BMA bod yna dipyn o ddryswch wedi bod o ran offer yn ystod yr wythnosau cyntaf.
"O'dd Sefydliad Iechyd y Byd wedi awgrymu un math o offer i arbed haint, ond roedd Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi awgrymu tipyn bach llai ar gyfer meddygon teulu, ac oherwydd y dryswch mae pobl wedi bod yn disgwyl mwy na beth maen nhw wedi ei gael."
"Mae pethau wedi bod yn reit araf yn cyrraedd pawb, be ddylen ni fod yn defnyddio yn y gymuned yn hytrach ydy mwgwd ar eich gwyneb, menyg, ffedog sy'n medru cael ei daflu, ac maen nhw yn awgrymu falle y dylsen ni brynu scrubs fel sydd mewn ysbyty.
"Ond un peth pwysig ydy'r visors yma. Da ni 'di clywed yn barod bod y Bathdy Brenhinol yn dechrau creu'r rhain yn Llantrisant.
"Yn syrjeri ni fe ddaeth y visors yma i mewn dydd Gwener, sydd dipyn ar ei hol hi, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddelio gyda chleifion o ddydd i ddydd ac mae'n rhaid i chi ddod i'r canlyniad bod bob claf o bosib efo'r coronaferiws yma, felly mae angen gwisgo'r offer yma ar gyfer bob cysylltiad.
"Dwi'n gobeithio y bydda yna ddigon yn cyrraedd pawb, mae'n nhw'n cael eu trosglwyddo drwy'r byrddau iechyd bron o ddydd i ddydd, a da ni'n gobeithio wedyn y bydd yna ddigon ar gyfer pawb."
Dywedodd Mr Gething: "Rydyn ni wedi rhoi cryn dipyn o offer PPE i staff rheng flaen ond dwi'n gwybod bod heriau a phroblemau lleol ac nid yw'n syndod bod pobl eisiau siarad am y rheini."
Cyhoeddwyd "adolygiad cyflym" o'r canllawiau ledled y DU ynghylch pryd y dylai staff y GIG ddefnyddio eitemau PPE.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Y sgyrsiau rwy'n eu cael yn ddyddiol, y negeseuon rwy'n eu derbyn gan bobl yn y rheng flaen yn y sectorau iechyd a gofal, yw nad ydyn nhw'n derbyn y PPE o ansawdd digonol, y math cywir ac mewn niferoedd digonol. "
"Rydyn ni wedi bod yn codi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru ac rwy'n falch eu bod nhw o'r diwedd wedi cyfaddef bod hynny wedi bod yn her ac mae angen gwneud mwy", meddai Janet Finch Saunders ar ran y Ceidwadwyr.
"Nid yn unig y mae angen mwy o gyflenwad PPE arnom", meddai, "ond mae angen cyngor cliriach arnom ar sut y caiff ei ddefnyddio, er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf bosibl gan roi'r amddiffyniad haeddiannol i'r staff a'r gwirfoddolwyr wrth roi eu bywydau mewn perygl i ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2020