Catrin Fychan: Dychwelyd at actio a newid byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r actores Catrin Fychan yn wyneb cyfarwydd i nifer ers ei dyddiau'n chwarae rhan Gina yng nghyfres Pobol y Cwm. Ond yn 2007 rhoddodd Catrin y gorau i actio er mwyn magu ei merch a chychwyn ar yrfa newydd fel athrawes.
Gyda'i merch bellach yn y coleg mae Catrin wedi penderfynu dychwelyd at actio a bydd hi'n ymddangos ar ein sgrîn eto yn y gyfres nesaf o 35 Diwrnod.
Bu'r actores yn siarad â Cymru Fyw am yr hwyl a'r her o newid gyrfa yn ei 50au.
"'Oedd hi'n 2007 pan rhoies i'r gore i'r byd actio a dyna pryd ddechreuais i ddysgu fel athrawes ysgol gynradd.
"Mae bod yn actores llawer haws i mi o ran sefyll o flaen cynulleidfa na bod yn athrawes a sefyll o flaen rhieni - ti'n gorfod perfformio fel athrawes ond fel actor ti'n gallu cuddio tu ôl i'r cymeriad."
Newid byd
Ac roedd bod ar lawr y dosbarth yn her gwahanol iawn i Catrin, oedd wedi cychwyn chwarae rhan Gina yn syth ar ôl graddio o'r coleg: "Do'n i ddim hyd yn oed yn gallu defnyddio ffotogopiwr heb sôn am laptop! Felly 'oedd hi'n fyd hollol newydd ac yn gyfnod arall mewn bywyd.
"O'n i wedi gwahanu o 'mhartner. O'r blaen byddai naill ai un neu'r llall ohonom yn gweithio ym myd actio tra fod y llall yn gofalu ar ôl ein merch ond ar ôl gwahanu roedd rhaid newid trywydd am gyfnod achos 'oedd angen gwybod fod yna sicrwydd cyflog.
"O'n i'n hapus iawn i wneud hynny - plant sy'n dod gyntaf wrth reswm a chi eisiau gwneud yn siŵr fod y plant yn cael cyfle i fwynhau gwerthoedd pwysig bywyd a byddai parhau i actio ddim wedi bod yn opsiwn imi bryd hynny.
"Doedd hi ddim yn gyfnod trist - 'oedd hi'n her newydd ac yn gyfle i gwrdd â phobl newydd mewn byd gwahanol."
35 Diwrnod
Meddai Catrin am ddychwelyd i fyd teledu ar ôl mwy na degawd o ddysgu: "Dw i wedi bod yn hynod ffodus i gael y cyfle yma.
"Mae'r cymeriad Nesta (yn 35 Diwrnod) fel finnau wedi cael cyfle i neud be' mae hi ishe 'neud ar ôl cyrraedd rhyw oedran. Mae hi yn yr un lle o ran fod plant Nesta ar fin gadael y nyth, ac mae Nesta fel minnau yn gallu canolbwyntio mwy ar ei bywyd hithau erbyn hyn - er chi byth yn stopio bod yn fam.
"Erbyn rŵan o'n i'n teimlo fod hi'n amser falle i fi feddwl am fi fy hun, mae Cati (merch Catrin) yn y coleg a gyda bywyd ei hunan ac yn dweud 'Mam, rhaid ti fynd nôl i actio.'
"Ges i gynnig y rhan a ddaeth yn dipyn o sioc, ond o'n i mewn lle yn fy hun yn barod am y sialens ac roedd yr awch o ishe yna eto.
"Dyma lle mae'r newid byd. Ar ôl bod o flaen plant, mae 'na gymaint o bethe 'oedd rhaid fi ail-ddysgu fy hun ond o'n i mewn dwylo da gyda'r tîm.
"Mi oedd 'na gydweithio arbennig - mae pawb mor bwysig pan ti o flaen camra.
"Wedi'r teimlad o ddringo mynydd ar spîd a chwysu, fe ddaeth 'na bwynt lle roedd 'na deimlad fod rhywbeth wedi deffro tu mewn imi.
"Nes i deimlo 'o ie, dyma pam es i fewn i'r byd actio.'"
Chwarae rhan Gina
Mae 21 mlynedd ers i Catrin adael Pobol y Cwm ar ôl chwarae rhan Gina am saith mlynedd.
Roedd yn gyfnod hapus iawn i'r actores: "O'n i yno ar adeg pan oedd cymuned - i gael mynd at y criw yna o actorion o'dd wedi bod ar lwyfan a theledu ers blynyddoedd, wna i byth anghofio hynny.
"O'n i mor ffodus i gael straeon cryf fel Gina a chyfle i weithio yn agos gyda Sera Cracroft, Gwyn Elfyn, Iola Greogry, Toni Carol, Rhys Parry Jones a Huw Ceredig.
"Cefais gyfle i gwrdd â Bella, Magi Post, Mr Tushingham ac eraill. Roedd bod yn rhan o'r cynhyrchiad yn fythgofiadwy ac roedd pawb yn un teulu braf."
Gadael Pobol y Cwm
Cafodd cymeriad Gina ei lladd mewn tro annisgwyl yn y gyfres. Dywedodd Catrin: "Nes i ddim dewis mynd ond fe ddoth o ar yr adeg iawn.
"Gath hi ei lladd ac 'oedd hwnnw yn sioc annisgwyl i'r gwylwyr ond roedd yn fraint imi gael stori dda i ddiwedd cyfnod bu mor bwysig imi. Er i'r drws yma gau fe agorodd ddrysau eraill achos roedd pobl yn gwybod mod i ddim yn mynd nôl at Pobol y Cwm.
"'Dw i wedi bod yn ffodus i chwarae rhannau gwahanol ar Y Graith, Amdani, Gwaith Cartref ac mewn gwaith theatr.
"Erbyn i fi adael Pobol y Cwm roedd lot o actorion newydd yn y gyfres. Roeddwn i'n hiraethu a cholli y teulu a fu achos mae pawb fel un uned fawr 'na."
Gwireddu breuddwyd
Roedd Catrin â'i bryd ar actio erioed: "Dw i'n cofio bod yn yr ysgol ac oedden ni'n cael dewis gwneud rhywbeth yn y bore ar gyfer gwasanaeth ac o'n i wastad yn actio neu'n meddwl mod i!
"Hwnna oedd fy angerdd i ers plentyndod. Bydde mam a Derwyn, dad number two, wastad yn fy nreifio i ymarferion. O'n i ddigon ffodus i gael cyfleoedd drwy glybiau ffermwyr ifanc , clybiau drama lleol a Theatr Maldwyn heb anghofio arweiniad a chwip fy athrawes ddrama Carys Edwards."
Mae'r gyfres 35 Diwrnod: Parti Plu yn ôl ar S4C ar ddydd Sul, 26 Ebrill am 9.00 pm.
Hefyd o ddiddordeb