Am y Ciando: Lansio cynllun llety i weithwyr allweddol
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i ddarparu llety mewn tai gwyliau gwag ar gyfer gweithwyr iechyd a'r gwasanaethau brys wedi cael ei lansio yng Ngwynedd a Môn.
Bwriad cynllun Ciando ydy cynnig lle i weithwyr y gwasanaeth iechyd aros dros dro oherwydd sefyllfa pandemig coronafeirws.
Mewn rhai achosion nid oes modd i'r gweithwyr allweddol hyn aros gydag aelodau bregus o'u teulu, neu mae'n bosib eu bod yn gweithio mewn ardal newydd iddyn nhw, neu hyd yn oed angen rhywle i aros er mwyn arbed taith hir adref.
Pwysau ar weithwyr allweddol
Mae Ciando, sy'n cael ei rheoli gan gwmni di-elw Menter Môn, yn caniatáu i berchnogion bythynnod gwyliau neu eiddo gwag gynnig llety.
Mae hefyd yn caniatáu i weithwyr allweddol ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n chwilio am le i aros.
Dywedodd Elen Hughes o Menter Môn: "Mae pobl yn y gwasanaethau brys a'r gwasanaeth iechyd dan gymaint o bwysau ar hyn o bryd, y peth olaf maen nhw'i angen ydy mwy o boen yn chwilio am rywle i fyw.
"Roedden ni'n cael lot o alwadau gan bobl yn cynnig llety, ac roedden ni'n meddwl bod angen cydlynu'r cynigion.
"Mae'r cynllun wedi bod yn rhedeg ers ychydig ddyddiau, ac rydym wedi cael 40 o bobl yn cofrestru llety a nifer gyson o weithwyr allweddol yn cysylltu - hyd yma tua chwech neu saith grŵp.
"Mi gawson ni un ymholiad ar ran chwech o fyfyrwyr nyrsio sydd ddim yn gallu aros yn eu llety presennol, ac mae ymholiadau eraill wedi dod gan weithwyr allweddol sy'n byw efo pobl fregus ac sydd ddim eisiau eu rhoi nhw mewn perygl."
Synnu at yr ymateb
Ychwanegodd Ms Hughes: "Mae gan bawb reswm pam y gallan nhw fod angen rhywle i aros. Byddwn yn treulio'r diwrnodau nesaf yn cydlynu pobl efo llety.
"Mae'n neis bod y gymuned yn gallu helpu. Rydym wedi synnu ar yr ymateb hyd yma.
"Hen enw am ystafell wely neu le i gysgu ydy 'ciando', ond yn Saesneg mae o hefyd yn anagram o 'I can do'."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020