Coronafeirws: 29 arall yng Nghymru wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Covid-19 CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi y bu farw 29 o bobl oedd â Covid-19 yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod a'r cyfanswm yma i 98.

Dyma'r nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru ar un diwrnod ers i'r feirws ddechrau ymledu.

Cafodd 274 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, gan ddod â'r cyfanswm i 1,837.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod nifer yr achosion yn uwch mewn gwirionedd am mai'r cyngor yw i bobl hunan ynysu os ydyn nhw'n credu eu bod wedi'u heintio.

Dywedodd Dr Robin Howe o'r corff bod y "cynnydd heddiw yn adlewyrchu cyfuniad o gynnydd gwirioneddol yn y niferoedd, ynghyd ag achosion ychwanegol a gofnodwyd o'r cyfnod adrodd blaenorol."

O'r achosion newydd, roedd 91 yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, 85 yng Nghaerdydd a'r Fro a 46 ym Mae Abertawe.

Darlun tebyg oedd i'r DU gyfan dros y 24 awr ddiwethaf, gyda 563 o farwolaethau wedi'u cadarnhau - y nifer fwyaf ar unrhyw ddiwrnod ers dechrau'r argyfwng.

Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 2,351 o bobl â Covid-19 wedi marw ar draws y DU.

Yn y cyfamser mae un o gyfarwyddwyr meddygol ysbyty mwyaf Cymru wedi dweud eu bod mewn "tir newydd" wrth i'r safle baratoi am "don anferth" o achosion coronafeirws.

Dywedodd Richard Skone, cyfarwyddwr bwrdd clinigol gwasanaethau arbenigol Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fod ymdrechion y staff yno hyd yn hyn wedi bod yn "anferthol".

Mae dros 800 o glinigwyr ar draws nifer o adrannau wedi derbyn hyfforddiant arbenigol er mwyn delio gydag achosion Covid-19.

Bydd y dasg honno yn hawlio sylw'r ysbyty am yr wythnosau a misoedd i ddod.

Cleifion gofal dwys

Hyd yma, mae 14 o gleifion Covid-19 wedi eu trosglwyddo i uned gofal dwys yr ysbyty.

"Rydym wedi modelu am nifer o sefyllfaoedd gwahanol, ac mae'r tensiwn yn dod o beidio gwybod pa un fyddwn yn gweithio arno", meddai.

"Mae'n anodd gwybod beth i'w ddisgwyl heb lanio yng nghanol sefyllfa - dydyn ni erioed wedi bod yma o'r blaen - ond yn sicr rwy'n credu ein bod wedi paratoi cystal ag y gallwn.

Ffynhonnell y llun, Google

"Rydym wedi gwneud pob trefniant i gynyddu'r hyn y gallwn ei wneud ac rydym wedi ehangu ein galluoedd gofal dwys dipyn mwy nag yr oeddem yn gredu oedd yn bosib."

Ysbyty maes

Ychwanegodd y byddai'r ysbyty maes newydd yn Stadiwm Principality yng nghanol Caerdydd o gymorth mawr, wrth gadw llif y cleifion drwy'r ysbyty i symud.

Mae'n credu y bydd y cyfnod pan fydd y pandemig ar ei waethaf "tua diwedd Mai i ddechrau Mehefin", ond fe allai hyn newid gan ddibynnu sut yr oedd pobl yn cydymffurfio gyda'r canllawiau.

"Y teimlad ar hyn o bryd yw yn amlwg mae pawb yn gweithio i'r eithaf, ac mae pawb yn eithaf stressed ond gyda hyn fe ddaw llawer o waith da ac ewyllys da gan bawb yn yr ysbyty.

Ychwanegodd: "Mae 'na lawer o bryder yn sicr am yr hyn yr ydym yn ei wynebu, ond yr hyn sydd fwyaf amlwg yw pa mor barod yw pobl o ddod at eu gilydd."