Ryff geid i gynganeddu (cyfrinach: mae'n hawdd!)

  • Cyhoeddwyd
Cerflun Meddyliwr, gan RodinFfynhonnell y llun, ajk408/Creative Commons

Os ydi dysgu cynganeddu ar eich 'rhestr bwced' ond tydych chi erioed wedi cael yr amser na'r amynedd i wneud, wel efallai mai nawr ydi'ch cyfle.

Tra bod gofyn i bobl aros gartref i atal lledaenu'r coronafeirws, mae'n gyfle i ambell un eistedd i lawr a dysgu'r hen draddodiad barddonol Cymraeg.

Ar ei raglen ar Radio Cymru, mae Aled Hughes yn cael gwersi wythnosol er mwyn ceisio ysgrifennu englyn erbyn diwedd y mis.

Ei her gyntaf oedd creu llinell o gynghanedd lusg (sef un math o gynghanedd) gyda'r gair 'adref' yng nghanol y frawddeg (neu cyn y 'gorffwysa' i'r beirdd yn eich mysg... ond darllenwch ymlaen am eglurhad!).

Dyma'i athrawes, y bardd Karen Owen, gyda'r rheolau a'r cyfarwyddiadau hollbwysig:

Cyfrinach fwyaf y gynghanedd

Does neb yn dweud wrtha ni pa mor hawdd ydi 'sgwennu dy gynghanedd gyntaf. Mae rhyw ddirgelwch wedi magu o gwmpas y gynghanedd dros y canrifoedd.

Roedd hynny achos roedd bod yn fardd yn job, a weithiau doedd pobl ddim eisiau i bawb allu ei wneud o felly roedd rhyw ddirgelwch a rheolau llymach, anoddach yn cael eu gweu o gwmpas y grefft.

Disgrifiad o’r llun,

Karen Owen (chwith) gyda Gwyneth Glyn yng nghystadleuaeth Talwrn y Beirdd Tafwyl 2015

Acen - hanfodol i'r gynghanedd!

Mewn 80-90% o eiriau Cymraeg cynhenid 'da ni'n rhoi'r pwyslais ar y darn bach diwetha' ond un. 'Da ni'n deud Al-ed... dim Al-ed; Ka-ren...dim Ka-ren. Enw'r darn diwetha' ond un ydi'r goben.

Ca-dair, cer-byd - dyna sy'n rhoi miwsig i'r iaith Cymraeg. Efo 'adref' - 'da ni'n deud ad-ref, dyna ydi liwt, neu siâp yr iaith Gymraeg.

Dyna'r unig beth allweddol ti angen i greu dy gynghanedd.

Y gynghanedd lusg

Mae'r cliw yn y gair 'lusg' - o'r gair 'llusgo'. Yr unig beth 'da ni'n wneud ydi 'llusgo' darn o sŵn (hynny yw, llusgo'r odl o un rhan o'r llinell i rhan arall).

Gorffwysfa (neu'r rhaniad yn y llinell cynghanedd)

Mae angen rhoi'r gair 'adref' ar yr orffwysfa yma... sef lle ti'n slofi lawr yn y frawddeg - y paned o de, y brêc bach. 'Da ni am wneud llinell efo saith sill... ac mae ganddo ni rhyw fath o linell lawr y canol - yr orffwysfa yma.

Disgrifiad o’r llun,

Chwilio am yr awen... Aled Hughes yn ei 'stiwdio'. Mae nifer o gyflwynwyr Radio Cymru yn darlledu gartref oherwydd canllawiau atal lledu'r coronafeirws

'Llusgo' sŵn yr odl

Beth 'da ni angen wneud ydi llusgo'r sŵn sydd reit cyn yr orffwysfa - sef 'adref' - i'r sill olaf ond un (y goben) yn y llinell. Y sŵn ar ddiwedd y gair 'adref' ydi ef... be' sy'n odli? Gair fel pentref.

Yr unig beth sydd angen gwneud ydi llusgo'r sŵn ef, er mwyn clywed y sŵn yna yn y sill olaf ond un y llinell.

Gosod yr odl yn sill olaf ond un y llinell

Mae gen ti felly 'dy, adref, dy dy, ef-rwbath'. Felly ti angen chwilio am air lle ma'r ef yna yn rhan cynta'r gair - ef-rhywbeth... fel nef-oedd, neu ef-aill.

Unwaith ti 'di cael yr ef yn y canol mae'r ddau brif floc lego gen ti yn y llinell - cwbl ti angen gwneud ydi llenwi fewn, a gei di roi unrhywbeth yn y lle gwag... 'rhywbeth adref, rhywbeth nefoedd.'

A chynnig Aled Hughes?

'Mae adref i mi'n nefoedd.'

Mae rhai ohonoch chi adref wedi bod wrthi'n brysur yn cyfansoddi campweithiau! Diolch am eu rhannu:

Carys Burston:

Os adref rhwystro'r clefyd

Charles Roberts:

Dos adref neu gei glefyd

ac

Awn adref i'r hen efail

Christopher Evans:

Adref mi af i lefain,

A chnoi cil yn fy nghilan.

ac

Yn fynych daw'r ebychu,

Rhai dirmyg didrugaredd.

Sain Trydar nawr - galarus,

Tra bo rhai Trump yn rheibus.

Hefyd o ddiddordeb:

Disgrifiad,

Beth yw cynghanedd?