'Wyt ti a dad yn mynd i fod yn sâl?' - Pryder plant am Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae iechyd a lles meddyliol plant yn bryder mawr i nifer o rieni, yn ôl ymchwil gan elusen Achub y Plant, yn ystod pythefnos cyntaf y gorchymyn i bobl aros adref i atal lledaeniad coronafeirws.
Yn ôl yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel yr "arolwg cyntaf o'i fath", dywedodd 58% o'r atebwyr ar draws y DU fod eu plant yn ofni y bydd aelod o'u teulu yn mynd yn sâl.
Dywedodd 56% eu bod yn poeni effaith cau ysgolion a'r diffyg cysylltiad gyda ffrindiau a theulu ar iechyd meddwl eu plant.
Mae'r canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â lansiad apêl yr elusen i godi arian ar gyfer helpu lliniaru effaith y pandemig ar rai o'r plant a'r teuluoedd mwyaf bregus.
'Cwestiynau'r plant yn pentyrru'
"Mae bywyd normal ymhell o fod yn normal i blant o bob oed ar hyn o bryd," meddai Eurgain Haf o Achub y Plant Cymru, sy'n fam i ddau blentyn, saith a phedair oed.
"Ac wrth i ni fel teulu baratoi ar gyfer ein trydedd wythnos o ymbellhau yn gymdeithasol, mae'r cwestiynau yn dechrau pentyrru.
"Pa liw yw'r firws? Wyt ti a dad yn mynd i fod yn sâl? Pryd allwn ni weld ein ffrindiau a Nain a Taid nesa'? Pryd fydd yr ysgol yn ail-ddechrau?
"A chithau yn cael eich rhwygo rhwng faint i ddweud a faint i ddal yn ôl, yn dibynnu ar eu dirnadaeth o bethau."
"Fel rhieni rydym yn gwneud ein gorau i gynnig cysur a thawelwch meddwl iddyn nhw," meddai.
Mae hynny'n cynnwys "ceisio monitro beth maen nhw yn ei weld ar y cyfryngau, edrych allan am arwyddion o unrhyw ofid neu newid mewn ymddygiad a cheisio cadw at ryw fath o routine".
LLIF BYW: Y diweddaraf ar 3 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Mae Achub y Plant hefyd wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau ar draws y DU i gefnogi'r plant sydd fwyaf mewn angen.
Bydd teuluoedd bregus yn cael rhoddion a thalebau bwyd i'w cynnal yn ystod cyfnod heriol, a "hanfodion i'r cartref fel byrddau a gwelyau i helpu'r plant barhau i allu dysgu a ffynnu".
Bydd grantiau argyfwng yn helpu sicrhau adnoddau dysgu ar gyfer y blynyddoedd cynnar, ac mae tudalen Y Den ar wefan yr elusen, dolen allanol yn awgrymu syniadau o bethau creadigol i blant eu gwneud.
Mae Y Den hefyd yn cynnwys syniadau i liniaru pryderon plant, ffyrdd creadigol "i gadw'r corff yn ystwyth ac iach, a chyfle i rannu straeon positif ac o hapusrwydd gyda phlant ar draws y byd".
Yn ôl Deb Barry, Uwch Ymgynghorydd Dyngarol gydag Achub y Plant, roedd 200,000 o blant eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru cyn y pandemig.
"Allwn ni ddim caniatáu i'r ffigwr yma godi," meddai, gan alw am gyfraniadau i'r apêl argyfwng trwy "haelioni y cyhoedd yng Nghymru".
"Drwy gydol y cyfnod heriol hwn i deuluoedd, rydym yma i gynnig cefnogaeth drwy ganolbwyntio ar gadw plant yn ddiogel ac yn iach a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau i ddysgu, doed a ddêl.
"Gyda'n gilydd gallwn helpu teuluoedd drwy hyn."
Prif ganfyddiadau'r arolwg
O blith y rhieni, mae:
48% o'r atebwyr yn nodi mai'r prif bryder yw sicrhau fod digon o fwyd;
44% yn poeni ynghylch helpu eu plant gyda'u gwaith ysgol;
19% yn pendroni sut i egluro'r sefyllfa a thrafod coronafeirws gyda'u plentyn;
38% yn pryderu am arian a 20% ag ansicrwydd ynghylch eu swyddi;
17% wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith i ofalu am eu plant;
12% wedi gorfod cymryd amser o'r gwaith yn ddi-dâl i ofalu am eu plant;
25% yn gorfod gweithio o'r cartref;
10% wedi gorfod gadael eu swyddi yn gyfan gwbl.
O blith yr atebwyr rhwng chwech ac 18 oed, mae:
58% yn poeni y gall aelod o'u teulu fynd yn sâl;
25% yn poeni y byddai na fydd digon o fwyd ganddyn nhw;
85% yn ddigalon na fyddan nhw'n cael gweld eu ffrindiau a'u perthnasau yn y dyfodol agos;
20% yn poeni ynghylch cadw i fyny gyda gwaith ysgol, a'r un ganran yn bryderus am y dyfodol gyda'r ysgolion ar gau am gyfnod amhenodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2020