Syr Keir Starmer yn arweinydd newydd i'r Blaid Lafur
- Cyhoeddwyd
Bydd arweinydd newydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer "yn sefyll dros fuddiannau Cymru," yn ôl arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Enillodd Syr Keir y ras i olynu Jeremy Corbyn gyda 56.2% o'r bleidlais, gan guro ei gyd-ymgeiswyr Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy.
Dywedodd Mr Drakeford y bydd arweinyddiaeth Syr Keir "yn hollbwysig yn ystod y misoedd nesaf".
Yn ei araith gyntaf fel arweinydd newydd y Blaid Lafur dywedodd Syr Keir ei fod yn ymwybodol iawn o raddfa'r dasg sydd o flaen y blaid.
"Mae gennym fynydd i'w ddringo," dywedodd, "ond fe fyddwn ni'n dringo, ac fe wnaf i fy ngorau i'n hail gysylltu ni â'r cymunedau a'r etholwyr, er mwyn sefydlu cynghreiriau ar draws ein trefi a'n dinasoedd ac yn ein rhanbarthau, gyda phob credo a phob cymuned er mwyn siarad ar ran yr holl wlad.
"Lle fo angen newid, byddwn ni'n newid. Lle fo angen ail-ystyried, byddwn yn ail-ystyried.
"Ein tasg ni fydd adennill ymddiriedaeth yn ein plaid ni fel grym dros ddaioni a grym dros newid."
Llongyfarchion Llafur Cymru
"Rwy'n anfon llongyfarchiadau cynnes o Gymru i Keir ar ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur," meddai Mr Drakeford.
"Daw Keir yn arweinydd ar adeg dyngedfennol i'n gwlad.
"Bydd ei arweinyddiaeth yn y Senedd yn hollbwysig yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni ymateb i coronafeirws ac yna wrth i ni geisio adeiladu'r gymdeithas fwy cyfartal a chyfiawn sy'n gorfod dilyn.
"Rwy'n gwybod bod gennym ni yn Keir, arweinydd Llafur a fydd yn parhau i sefyll dros fuddiannau Cymru ac a fydd yn cefnogi gwaith Llywodraeth Lafur Cymru dros bobl Cymru."
Fe gollodd y blaid Lafur chwech sedd i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr, yn cynnwys cadarnleoedd fel Penybont, Wrecsam a Delyn.
Tra'n ymgyrchu yng Nghaerdydd ym mis Chwefror, fe ddywedodd Mr Starmer y dylai rhagor o bwerau gael eu datganoli i Gymru. Ychwanegodd y dylai arweinyddiaeth Cymru gael mwy o lais wrth i'r Blaid wneud penderfyniadau.
Llongyfarch dirprwy arweinydd newydd
Llongyfarchodd Mr Drakeford Angela Rayner hefyd ar gael ei hethol yn ddirprwy arweinydd.
"Bydd ei hegni a'i dealltwriaeth yn gaffaeliad i'r blaid ac edrychaf ymlaen at ymgyrchu gyda hi ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod," meddai Mr Drakeford.
"Nawr bod yr etholiad drosodd, rhaid i'n plaid ddod at ei gilydd i wynebu'r heriau sy'n amlwg iawn o'n blaenau.
"Yn unedig a gyda ffocws byddwn yn ennill ymddiriedaeth y cyhoedd ac ymhen amser, eu caniatâd i lywodraethu ledled y DU."