GIG Cymru i 'ddyblu nifer y llefydd ar gael i gleifion'

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfleusterau newydd yn Stadiwm Principality wedi costio £8m

Dywed gweinidog iechyd Cymru bod y gwasanaeth iechyd yma yn paratoi i ddyblu nifer y llefydd sydd ar gael mewn paratoad ar gyfer cynnydd yn nifer y cleifion.

Yn ôl Vaughan Gething mae cynllunwyr milwrol yn mynd i gynorthwyo darparu 7,000 o welyau ychwanegol a mwy na dyblu nifer yr offer anadlu.

Cyhoeddodd hefyd y bydd 2,500 o staff newydd yn helpu'r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymddeol, meddygon teulu locwm a meddygon dan hyfforddiant.

Mae stadia chwaraeon a chanolfannau hamdden yn cael eu trosi i greu wardiau ychwanegol hefyd.

Daw hyn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod 3,197 o bobl bellach wedi profi'n bositif i'r haint, cynnydd o 355.

Fe wnaeth 12 yn rhagor o bobl farw o'r haint dros y 24 awr diwethaf hefyd, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau yma i 166.

"Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yng nghyflymder a brys yr ymateb ledled Cymru i baratoi gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol i gwrdd â'r heriau sydd ar ddod o ganlyniad i coronafeirws," meddai Mr Gething.

Mae gallu gofal critigol wedi mwy na dyblu ledled Cymru ers i argyfwng Covid-19 gydio yn y mis diwethaf - ac mae'r llywodraeth wedi dweud bod 48% o 350 o welyau awyru gofal critigol Cymru yn cael eu meddiannu, hanner gyda chleifion coronafeirws.

Gallai ysbytai adleoli rhai o'r 415 peiriant anadlu mewn adrannau eraill ond mae GIG Cymru bellach yn prynu 1,035 arall i ofalu am y cleifion sâl.

Ble mae ysbytai maes Cymru?

  • 2,000 o welyau yn Stadiwm Principality Caerdydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro;

  • 350 o welyau yn Ysbyty Athrofaol newydd y Grange gwerth £350m yng Nghwmbrân ar gyfer Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Ynghyd â 36 gwely yn ysbyty preifat St Joseph yng Nghasnewydd;

  • 870 o welyau yn Venue Cymru Llandudno, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Bangor ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr;

  • 900 o welyau ym mhencadlys hyfforddi Undeb Rygbi Cymru yn Hensol, Abercynon, a gwelyau cartref gofal a chymuned ym mwrdd iechyd Cwm Taf;

  • 660 o welyau ar gae rygbi Parc y Scarlets Llanelli, pentref gwyliau Bluestone yn Arberth, Canolfan Selwyn Samuel Llanelli ac Ysbyty Werndale Caerfyrddin;

  • 1,400 o welyau yn Academi Chwaraeon Llandarcy rygbi Gweilch, Stiwdios Bae Abertawe ac ysbyty preifat Sancta Maria.

Mae cynllunwyr milwrol yn helpu i ychwanegu 7,000 o welyau at y capasiti arferol o 10,000 gwely yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn ysbytai maes sydd newydd eu creu, fel y cyfleuster £8m sydd â 2,000 o welyau yn Stadiwm Principality.

"Rydw i wedi cael fy syfrdanu gan ymateb gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i'r galwadau rydyn ni wedi'u gwneud am eu cefnogaeth," ychwanegodd Mr Gething.

"Yn yr amseroedd mwyaf tywyll hyn, byddai'n hawdd anghofio'r hyn a gyflawnwyd o fewn dim ond ychydig wythnosau a'r cynnydd enfawr a wnaed o ran paratoi'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer coronafeirws."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tua 2,500 o staff yn cael eu hychwanegu at yr 80,000 sydd eisoes yn gweithio'n uniongyrchol i GIG Cymru

Mae llawfeddygaeth arferol wedi'i chanslo yng Nghymru felly mae gan ysbytai y gallu i ddelio â'r cynnydd disgwyliedig mewn achosion Covid-19.

"Ledled Cymru, darparwyd hyfforddiant i uwchsgilio cannoedd o staff nad ydyn nhw fel arfer yn gweithio ym maes gofal critigol," meddai Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru.

"Mae ardaloedd ychwanegol wedi'u nodi mewn ysbytai i ddarparu awyru mwy ymledol i gleifion y tu hwnt i'r gofod sydd ar gael fel arfer mewn unedau gofal critigol.

"Mae hyn yn ychwanegol at yr ardaloedd hynny a nodwyd fel gallu ymchwydd ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael fel rhan o'r cynlluniau presennol i ddyblu capasiti pan fo angen."