Gorchymyn aros adref: Trais domestig '25% yn uwch'

  • Cyhoeddwyd
dwrnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed elusen Refuge fod eu llinell gymorth wedi derbyn cannoedd yn fwy o alwadau nag yn y pythefnos cyn y gorchymyn i aros adref

Mae yna bryderon y bydd yna farwolaethau ymhlith merched sy'n byw gyda chymar treisgar yn sgil y gorchymyn i bobl aros yn eu cartrefi oherwydd y pandemig coronafeirws.

Mae ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn trais yn y cartref, Rachel Williams, yn credu y bydd niferoedd llofruddiaethau "yn mynd trwy'r to" tra bod angen i bobl hunan ynysu adref.

Dywedodd elusen Refuge eu bod wedi cofnodi 25% yn fwy o alwadau ffôn a cheisiadau ar-lein am gymorth ers i'r gorchymyn ddod i rym ar draws y DU.

Mae menyw sydd newydd ddianc i loches yng Nghymru ar ôl chwe mis o gael ei cham-drin yn feddyliol ac yn gorfforol gan ei phartner wedi dweud wrth y BBC i'w sefyllfa waethygu yn dilyn y gorchymyn i osgoi mynd allan oni bai bod rhaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gorfod aros gartref gyda chymar treisgar yn ei gwneud hi'n amhosib i ddioddefwr ffonio llinell gymorth

'Dim ots gen i os nad oeddwn yn deffro'

Mae Tara - nid ei henw cywir - yn cael cefnogaeth erbyn hyn gan yr elusen Llamau.

Dywedodd wrth y BBC bod y gamdriniaeth wedi datblygu'n raddol.

Pan ddechreuodd, meddai, roedd ei chymar "yn fy nghadw oddi wrth fy nheulu a ffrindiau… yn meddwl 'mod i'n gweld rhywun arall pan rwy' gyda fe drwy'r amser... jest yn fy rheoli".

Roedd wedi dileu ei chyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol a'i hatal rhag gweld ei theulu, ond fe wnaeth ei ymddygiad barhau i waethygu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn ofni fod yna lai o gyfleoedd i ddioddefwyr ffoi o'u cartrefi oherwydd yr angen i osgoi mynd allan

"Fe wnaeth e fy ngham-drin yn feddyliol, yn eiriol ac roedd yn fy nharo... yn ddiweddar mae yn amlwg wedi gwaethygu, ers y lockdown," meddai.

"Mae wedi bod yn ddifrifol. Doedd dim ots gen i os nad oeddwn yn deffro wedi'r noson gynt.

"Ro'n i jest yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd y diwrnod canlynol, roeddwn i jest eisiau i bob diwrnod fynd heibio.

"Cyn gynted ag y mae e'n codi, mae e'n ceisio creu ffrae o ddim byd, ac os ydw i'n ateb e'n ôl, neith e jest fy nharo."

Fe gyrhaeddodd Tara ben ei thennyn wrth i'r gamdriniaeth waethygu o orfod treulio ddydd a nos yng nghwmni ei chymar yn unig, a dod i'r canlyniad fod yn rhaid cefnu ar y berthynas am byth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Williams, sydd wedi profi trais domestig, yn ofni bydd yna lofruddiaethau tra bod pobl dan orchymyn i aros adref

Am flynyddoedd cafodd Rachel Williams o Gasnewydd ei cham-drin gan ei gŵr, a'i saethu ganddo yn ei choes pan ddywedodd wrtho ei fod yn ei adael.

Mae bellach ymhlith ymgyrchwyr mwyaf blaenllaw'r DU yn erbyn trais yn y cartref.

"Yn fy marn i, mae'r gyfradd dynladdiad yn mynd i fynd trwy'r to," meddai.

"Dyma rydym yn ei ragweld ac yn paratoi ar ei gyfer. Allwch chi ddim atal y tramgwyddwr oni bai ei fod yn weladwy.

"Wnawn ni fyth atal trais yn y cartref yn gyfan gwbl. Mae gyda ni epidemig ar y funud yn y DU gyda phandemig wedyn ar ben hynny."

Cymorth ar gael, er y cyfyngiadau ar symud

Dywed Sandra Horley, prif weithredwr Refuge ei bod yn arfer i ddioddefwyr gael eu hynysu gan y sawl sy'n eu cam-drin.

Ond mae'n ofni fod gorfodi menywod a'u plant i dreulio cyfnodau hirach gyda'r sawl sy'n eu cam-drin "â'r potensial o gynyddu'r bygythiad o ragor o drais domestig, a rhagor o gyfyngu ar eu rhyddid".

Mae staff Refuge yn gweithio o adref yn ystod yr argyfwng coronafeirws er mwyn sicrhau fod galwadau i'w llinell gymorth yn cael eu hateb ddydd a nos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd cysylltu â'r llinell gymorth trais domestig cenedlaethol ar-lein yn ogystal ag ar y ffôn

Mae heddluoedd yn pwysleisio y dylai menywod a dynion sy'n dioddef trais domestig gysylltu â'r heddlu a gofyn am gymorth, hyn yn oed tra bo'r gorchymyn i aros adref mewn grym.

Dywedodd llywodraethau Cymru a San Steffan fod cymorth ar gael i unrhyw un sy'n dioddef trais yn y cartref.

Am wybodaeth a chefnogaeth ar drais domestig, ffoniwch:

  • Heddlu: 999, a phwyswch 55 os nad ydych chi'n gallu siarad

  • Elusen Refuge: 0808 2000 247

  • Llinell gymorth Byw Heb Ofn Cymorth i Ferched Cymru: 0808 80 10 800