'Rhwydwaith' o ganolfannau profi Covid-19 'o fewn dyddiau'

  • Cyhoeddwyd
vaughan gething

Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio sefydlu "rhwydwaith" o ganolfannau prawf coronafeirws ar draws y wlad o fewn y dyddiau nesaf.

Dywedodd Vaughan Gething fod disgwyl i'r cyntaf - ger Stadiwm Dinas Caerdydd - ddechrau gweithredu heddiw.

Bydd rhagor yn agor yng Nghasnewydd, y de orllewin a'r gogledd, a hynny i brofi staff iechyd a gofal i ddechrau.

Mae 15,000 o brofion coronafeirws wedi eu cynnal yng Nghymru ers mis Ionawr, gyda thri chwarter o'r rheiny'n dod yn ôl yn negyddol.

Prawf gwrthgyrff 'yn yr wythnosau nesaf'

Daw hynny wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 19 arall oedd â Covid-19 wedi marw yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm swyddogol i 212.

Cafodd 291 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 3,790 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod fod mwy o bobl â'r feirws mewn gwirionedd, gan mai'r cyfarwyddyd i'r rhan fwyaf o bobl sydd â symptomau yw i aros gartref.

Wrth siarad yng nghynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething ei bod hi'n cymryd 24 awr i gael canlyniad prawf ar hyn o bryd, ond bod disgwyl i hynny "gyflymu".

Ychwanegodd bod disgwyl i'r tri chanolfan brawf nesaf agor o fewn "saith i 10 diwrnod", ac y byddai cyflogwyr yn rhoi gwybod i bobl os oedden nhw'n gymwys.

Y bwriad, meddai, fydd sicrhau yn y pen draw bod modd i bobl "deithio i gael eu profi o fewn 30 munud i'w cartref", a'u bod hefyd yn gweithio ar gael prawf yn y cartref.

Ar hyn o bryd dim ond prawf i weld a oes gan rywun coronafeirws sydd ar gael, ond dywedodd y gweinidog iechyd eu bod yn gobeithio dod o hyd yn yr wythnosau nesaf i brawf fydd yn gallu gweld a ydy rhywun wedi cael yr haint.

Dywedodd Mr Gething fod ymdrechion hefyd yn parhau i sicrhau mwy o offer diogelwch i staff iechyd wrth iddyn nhw daclo'r pandemig.

"Rydyn ni mewn llawer gwell lle yma yng Nghymru wrth weithio fel rhan o deulu ehangach y DU i sicrhau'r offer hwnnw," meddai.

Teyrnged i lawfeddyg

Yn y gynhadledd fe dalodd Mr Gething deyrnged i lawfeddyg o Gaerdydd sydd wedi marw â coronafeirws.

"Roeddwn i'n drist iawn o glywed am ei farwolaeth," meddai.

"Mae'n dangos, waeth beth ydy'ch arbenigedd neu gyflawniadau chi... fod hyn yn gallu effeithio arnoch chi."