Coronafeirws: Galw ar fwy o gwmnïau i gynorthwyo'r GIG
- Cyhoeddwyd

Mae'r BMA yn dweud bod rhai o'r masgiau sydd wedi eu cyrraedd yn annigonol, ond mae angen mwy o gyfarpar diogelwch
Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi annog mwy o gwmnïau i gynorthwyo'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i daclo coronafeirws.
Mae rhai busnesau a phrifysgolion ledled Cymru eisoes wedi ymateb drwy ddarparu gofal cymdeithasol ac offer hollbwysig i gefnogi staff y GIG.
Ymhlith y cwmnïau diweddaraf i gynnig eu cymorth mae distyllfa gin, In The Welsh Wind, o Geredigion, sydd wedi dechrau cynhyrchu hylif diheintio o'u canolfan yn Tanygroes - mae'r cynnyrch yn cael ei gymeradwyo gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae'r Rototherm Group o Fargam, yn y cyfamser, yn cynhyrchu tariannau wyneb, fydd yn cael eu defnyddio gan staff gofal iechyd.
Yn cyfrannu at y fenter hon hefyd mae cwmni Premier Plastic Services Ltd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chwmni Amari Plastics Ltd o Gaerdydd - nhw dalodd am y 2,000 uned cyntaf.

Fe ddechreuodd distyllfa In The Welsh Wind yng Ngheredigion greu hylif diheintio ddechrau mis Mawrth
Dywedodd Mr Skates: "Bu ymateb hynod bositif gan y gymuned fusnes ac rydym yn gweld ffyrdd newydd o weithio wrth i fusnesau newid i gynhyrchu dyfeisiadau a chynnyrch, fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol.
"Dwi'n croesawu'n fawr y camau y mae busnesau wedi'u cymryd hyd yma, ac yn annog mwy i wneud yr un modd - os y gallwch, meddyliwch am y rhan bwysig y gallech ei chwarae.
"Mae gan Gymru gyfoeth o brofiad, doniau a sgiliau a bydd angen hyn mwy nag erioed i guro'r feirws hwn."

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford, hefyd wedi galw ar fusnesau yng Nghymru i greu cadwyn gyflenwi newydd yng Nghymru ar gyfer cyfarpar diogelu personol i gefnogi'r GIG a staff gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, mae Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru yn gofyn i ddiwydiannau gefnogi'r ymdrechion i fynd i'r afael â'r feirws drwy feddwl am atebion newydd mewn meysydd fel rheoli heintiau.
Dylai busnesau ac unigolion sydd eisiau helpu fynd i dudalen arbennig ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol i gael rhagor o wybodaeth a phwyntiau cyswllt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020