'Lockdown llwyr' i ferch o Aberystwyth yn Ecwador
- Cyhoeddwyd
"Dwi ddeuddeg awr o faes awyr ac mae yna 'lockdown llwyr' yma yn Ecwador," medd Mari James sy'n wreiddiol o Aberystwyth.
Mae Mari newydd raddio o Brifysgol Nottingham ac ar hyn o bryd yn gwirfoddoli gyda chynllun People to People yn Ecwador.
"Dwi wedi bod yma ers mis Ionawr," meddai Mari, "a be dwi ac eraill yn 'neud yw addysgu pobl Kichwa sut i greu incwm o amrywiol weithgareddau - mae nhw'n dlawd iawn.
"Rhan arall o'r gwaith yw dysgu'r ffermwyr sut i fod yn organig - mae bwyd organig yn dod â mwy o arian iddyn nhw ac hefyd, wrth gwrs mae o fudd i'r tir, y dŵr ac mae'r cynnyrch yn well."
"Cyn y lockdown roedden ni newydd ddechrau trafod nifer o syniadau a'r nod yn y pen draw oedd ffurfio mentrau cydweithredol drwy gael y bobl yma i werthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd.
"Dwi hefyd wedi bod yn dysgu yn yr ysgolion lleol.
"Ond ers rhai wythnosau nawr ry'n wedi bod mewn lockdown llwyr."
Ychwanegodd Mari ei bod yn lwcus nad oes llawer o achosion o coronafeirws yn ei hymyl hi ond bod yna nifer o achosion yn y taleithiau.
Plismyn milwrol yn gwylio
"Dwi'n ffodus iawn i ddweud y gwir mae gen i wi-fi ac mae'r cwmni dwi'n gwirfoddoli iddynt yn sicrhau pecynnau bwyd i ni gan y llywodraeth ond pan r'odd y pecynnau yn cyrraedd roedd plismyn milwrol o gwmpas ac ro'dd rhaid arwyddo am y bwyd.
"Dan ni wir ddim yn cael symud rhyw lawer - mae 'na curfew rhwng 2 y prynhawn a 6 y bore a 'dan ni ddim yn cael mynd allan o gwbl. Does neb yn cael croesi'r provinces.
"Dwin gwybod nad oes gobaith gen i ddod adre - mae'n cymryd awr a hanner i fi gyrraedd y brif ffordd a dwi ryw 12 awr o'r maes awyr.
"Ro'n i braidd yn ofnus ar y dechrau ond nawr dwi'n gwybod bo fi'n iawn yma yn y bôn - efallai yr hyn sydd braidd yn drist yw bod y bobl yma wedi gorfod camu yn ôl yn hytrach nag ymlaen.
"Does fawr o fwyd yn y siop leol ac mae'r bobl yn ddibynnol ar eu cynnyrch eu hunain - does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw fath o arian.
"Mae mangos a phinafal wedi bod yn cael eu gwerthu yn y siop ond dim bellach oherwydd does dim modd cludo bwyd o daleithiau eraill."
Pryderu am y teulu adre
Ar ddechrau'r cyfyngiadau yr hyn a wnaeth Mari yn fwy pryderus oedd salwch ei thad.
"Dyw Dad ddim wedi cael prawf COVID-19 ond mae'n ymddangos ei fod wedi cael y feirws gan fy hanner chwaer - mae e'n hŷn ac ro'n i wir yn poeni amdano fe ond mae e nawr yn well - diolch byth.
"Ydi mae bywyd wedi newid lot fawr - dwi'n un sydd wedi arfer mynd allan - ond i ddweud y gwir mae hwn yn brofiad hynod werthfawr.
"Dwi'n gobeithio gaf fi fwrw 'mlaen â'r hyn roeddwn fod i 'neud - ro'n i wir yn joio ac mae'n brofiad anhygoel ond am y tro mae hynny'n amhosib.
"Ond mae'r lockdown wedi newid ni gyd hefyd - a dwi'n credu fydd bywyd nôl adre fyth yr un fath wrth i bobl fethu teithio a gweld bod hi'n bosib gweithio o adre.
"Mae'r cyfyngiadau wedi newid popeth - ac ydi mae bod yma yn brofiad arbennig iawn er bo fi'n gwybod chai ddim dod o 'ma am sbel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2020