Galw am atal angladdau yn ystod y pandemig Covid-19

  • Cyhoeddwyd
ArchFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried stopio angladdau yn ystod yr argyfwng coronafeirws, yn ôl swyddog sy'n arwain gwasanaethau di-grefydd.

Fe ddywedodd Lorraine Barrett, cyn-aelod Cynulliad ac aelod o'r Dyneiddwyr, fod cyfyngu ar nifer y galarwyr mewn angladdau yn achosi poen pellach i deuluoedd.

Mae rhai trefnwyr angladdau hefyd wedi galw am gysoni rheolau, gan fod cynghorau wedi gosod eu polisïau eu hunain ar faint o alarwyr sy'n gallu mynychu.

Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn gosod uchafswm, ond maen nhw'n pwysleisio'r angen i bawb aros dau fetr ar wahân.

Dywed hefyd na ddylai pobl fynd i angladdau oni bai eu bod nhw wedi cael gwahoddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lorraine Barrett yn awgrymu cynnal gwasanaethau coffa pan fydd y pandemig ar ben, yn lle angladdau cyfyng

Dywedodd Mrs Barrett fod y sefyllfa bresennol yn ddryslyd.

"O safbwynt personol, cyn belled ag y mae'r canllawiau yn y cwestiwn, rwy'n credu y dylai'r ddwy lywodraeth fod yn edrych o ddifrif ar angladdau heb bobl yn bresennol, dim ond am ychydig wythnosau, dim ond er mwyn rhoi lle i bawb anadlu," meddai.

Yn ôl Rhys Price o drefnwyr angladdau Gwilym Price yn Llambed, dylai pob amlosgfa a mynwent gadw at yr un rheolau.

"Bydde fe'n neud pethau lot yn haws i ni a'r cyhoedd," meddai.

"Mae'n amser digon anodd i'r teulu fel y mae hi."

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y gall galarwyr fynd i angladdau os mai nhw sydd wedi trefnu'r angladd, os cawsant eu gwahodd i ddod neu os ydynt yn gofalu am rywun sydd wedi cael gwahoddiad.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dod â'u holl wasanaethau i ben, gan gynnwys angladdau mewn eglwysi, er y gall angladdau bedd gael eu cynnal gyda hyd at 10 o berthnasau a ffrindiau yn bresennol.