Cau Cymru i ymwelwyr wrth i feirws gyrraedd uchafbwynt

  • Cyhoeddwyd
Ceinewydd

Mae disgwyl i'r coronafeirws gyrraedd ei uchafbwynt dros y penwythnos, sy'n golygu bod Cymru ar gau i dwristiaid y Pasg.

Yn ôl Bwrdd Twristiaeth Canolbarth Cymru, fe allai gymryd blynyddoedd i adfer y diwydiant wedi'r cyfnod heriol.

Gyda thua 100,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant yng Nghymru, fel arfer fe fyddai penwythnos y Pasg yn ddechrau ar gyfnod prysuraf y flwyddyn i nifer ohonynt.

Ond gyda mesurau ynysu yn dal i fod mewn grym, bydd y golled ariannol yn "un aruthrol" yn ôl rhai perchnogion meysydd carafanau.

Mae'r diwydiant yn ei gyfanrwydd ar stop, sy'n ergyd anferthol i bobl fel Meirion Jones, perchennog meysydd Cefn Cae yn Rowen a Thrwyn yr Wylfa ym Mhenmaenmawr.

Fe gafodd £100,000 ei fuddsoddi yn y busnes dros y Gaeaf, er mwyn gosod gwifrau trydan newydd.

"Mae'r ffons adeg yma o'r flwyddyn yn canu o saith o'r gloch y bore tan o leiaf deg y nos - bob dydd - saith diwrnod yr wythnos.

"Rŵan - dim byd."

"Mae'n edrych yn debyg na fydd ceiniog yn dod fewn i'r busnes tan adeg yma'r flwyddyn nesaf."

Faint sy'n ymweld â Chymru dros y Pasg?

Ymweliadau undydd o'r DU yn Ebrill 2019:

  • 5.3 miliwn trip

  • Gwariant o £171m

Ymweliadau dros nos o'r DU yn Ebrill 2019:

  • 914,000 trip

  • Gwariant o £160m

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Mae Mr Jones hefyd wedi gorfod talu blaendaliadau yn ôl i fwyafrif ei gwsmeriaid, gan roi pwysau mawr ar y busnes.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i'r llywodraeth wybod be' sy'n digwydd 'efo yswiriant.

"I gwsmeriaid ac i fusnesau, does dim llawer o atebion. Mae gynno ni Business Interuption Insurance, ac maen debyg bod y cwmni ddim yn cyfro ni am coronafeirws."

Yn ôl ffigyrau Croeso Cymru, mae 100,000 o bobl yn gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

"Maen ergyd fawr i ni, ac mae pob mis yn ergyd arall," meddai Rowland Rees-Evans, cadeirydd Bwrdd Twristiaeth Canolbarth Cymru.

"Yn waeth na hynny, erbyn Gaeaf nesaf bydd dim digon o arian ar ôl yn y busnes i gadw fynd am y flwyddyn nesaf.

"Ni'n edrych am o leiaf 12 mis, os nad mwy, i fusnesau ddechrau dod dros hyn."

Mesurau 'yn gweithio'

Er yr effaith ar fusnesau, mae arwyddion bod y rheolau ynysu yn lleihau'r straen ar wasanaethau iechyd, yn ôl Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Yn siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Iau, dywedodd Dr Andrew Goodall bod aros adref yn gwneud "gwahaniaeth sylweddol iawn", gan annog pobl i barhau gyda'r drefn dros benwythnos y Pasg.

"Dim ond cymaint alla i ei wneud yn cynyddu niferoedd gwelyau a chynllunio, y peth sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf yw'r cyhoedd yn cadw at y rheolau."

"Bydd hwn yn benwythnos arbennig o anodd i'r sector twristiaeth a lletygarwch" yn ôl y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas.

"Rydym yn cydnabod yn llawn yr effaith anferthol y mae coronafeirws yn eu cael.  Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi busnesau - ac mae amrywiaeth o fesurau eisoes ar waith i wneud hyn."

Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i'r diwydiant am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth ein helpu i ofyn i'n hymwelwyr aros gartref - i achub bywydau."